Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Poen yn y Glun mewn Plant

Sut mae’r glun yn gweithio?

Mae cymal y glun yn sefydlog a chryf iawn. Yr enw arno yw cymal pelen-a-chrau oherwydd bod pen uchaf asgwrn y glun (y ffemwr) ar siâp pêl. Mae’r ‘bêl’ hon y tu mewn i grau gwag yn eich pelfis. Cymalau pelen a chrau sy’n rhoi’r symudiad ehangaf o’r holl wahanol fathau o gymalau yn y corff.

Diagram of the hip joint with labelling of different bones and joints / Diagram o gymal y glun gyda’r esgyrn a’r cymalau gwahanol wedi’u labelu.

Gorchudd cryf o gyhyrau, tendonau a gewynnau sy’n rhoi sefydlogrwydd i gymal y glun. Hefyd, mae’r crau yn cael ei wneud yn ddyfnach gan ymyl ychwanegol o’r enw labrwm, sy’n ei wneud yn fwy sefydlog fyth.

Mae cyhyrau’r glun yn helpu’r cymal i symud, gan gefnogi’r goes a symudiad rhan uchaf y corff. Mae cymal y glun yn eich galluogi i symud eich coes ymlaen, yn ôl ac i’r ochr, ar draws eich corff yn ogystal â’i chylchdroi. Mae haen o gartilag ar wyneb yr esgyrn yn caniatáu symudiad llyfn ac yn gweithredu fel siocleddfwr.

Gan fod cymal y glun yn ddwfn iawn a chynhaliaeth gref i’r cyhyrau, fel arfer mae’n sefydlog iawn.

Os yw eich plentyn yn gloff ac yn datblygu unrhyw un o’r symptomau canlynol, dylech chi ffonio 111 ar frys a bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn penderfynu a oes angen gofal brys ar eich plentyn.

  • Poen sydyn yn y glun, y forddwyd neu ben-glin
  • Methu rhoi dim pwysau o gwbl ar y goes wrth sefyll neu gerdded
  • Y goes wedi newid ei siâp neu’n cyfeirio at ongl ryfedd
  • Teimlo’n anhwylus gyda thymheredd uchel, teimlo’n boeth ac yn crynu
  • Poen difrifol yng ngwaelod y bola
  • Symptomau sy’n gwaethygu

Rhagor o wybodaeth

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content