Mae colli llif gwaed i’r rhan hon o’r corff yn achosi i gartilag a segmentau esgyrn bach wahanu a mynd yn ansefydlog.
Nid yw’n gwbl hysbys beth sy’n achosi OCD ond efallai bod cysylltiad â straen ailadroddus i’r asgwrn dros amser, anaf blaenorol i’r rhan hon o’r corff a ffactorau genetig.
Fel arfer, mae’n effeithio ar bobl ifanc a phlant sy’n tyfu ac mae’n fwyaf cyffredin yn y pen-glin ond mae’n gallu effeithio ar oedolion a chymalau eraill hefyd.
Os yw eich plentyn yn gloff ac yn datblygu unrhyw un o’r symptomau canlynol, dylech chi ffonio 111 ar frys a bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn penderfynu a oes angen gofal brys ar eich plentyn.
Efallai y bydd angen i’ch plentyn weld meddyg ar frys os yw wedi cwympo neu droi ei ben-glin a’r:
Os yw hyn yn digwydd, dylech chi ffonio 111 ar frys a bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn penderfynu a oes angen gofal brys ar eich plentyn.
Mae symptomau unigolion yn gallu amrywio ond dyma rai ohonynt:
Bydd OCD yn cael ei ddiagnosio yn dilyn archwiliad corfforol. Os yw eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn amau OCD, bydd pelydr-X neu sgan MRI yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo â’r diagnosis.
Addasu gweithgareddau
Addasu gweithgareddau Gall gorffwyso ac osgoi chwaraeon effaith uchel a gweithgarwch egnïol fod o gymorth i leddfu poen a dadchwyddo hyd nes y bydd symptomau’n gwella.
Gellir ailddechrau unwaith y bydd y symptomau wedi gwella. Gall gweithgareddau fel nofio a beicio fod o fudd i leihau’r effaith ar y cymal.
Darllenwch ragor am hyn ar ein tudalen ‘Atal Anafiadau Chwaraeon’.
Lleihau poen
Dyma rai pethau sy’n gallu helpu i wella’r boen yn eich pen-glin;
Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am y wybodaeth hon, cysylltwch ag Adran Cleifion Allanol Dolffin ar 02921 847577.
Os nad oes gan eich plentyn apwyntiad wedi’i drefnu gyda’r adran ffisiotherapi a bod y symptomau’n parhau, neu os nad ydynt yn gwella’n raddol, yna gallwch hunan-atgyfeirio eich plentyn i’r Adran Cleifion Allanol Ffisiotherapi Pediatrig trwy ffonio’r llinell atgyfeirio ar 02921 836908.
Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.