Mae clefyd Perthes yn brin ac yn effeithio ar 1 o bob 9,000 o blant.
Does neb yn siŵr iawn pam mae’n digwydd. Mae clefyd Perthes yn effeithio ar ben ffemwrol y glun – y belen yn y cymal pelen a chrau ar ben asgwrn y glun. Mae’r cyflenwad gwaed yn cael ei golli ac o ganlyniad mae’n gallu colli ei siâp. Gall hyn arwain at arthritis y glun yn ddiweddarach mewn bywyd.
Os yw eich plentyn yn gloff ac yn datblygu unrhyw un o’r symptomau canlynol, dylech chi ffonio 111 ar frys a bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn penderfynu a oes angen gofal brys ar eich plentyn.
Fel arfer, bydd plant sydd â chlefyd Perthes yn dweud bod ganddyn nhw boen yn yr afl, y glun neu’r pen-glin – yn enwedig ar ôl bod yn actif.
Efallai y byddan nhw’n hercian a theimlo anystwythder yng nghymal y glun. Gall y symptomau hyn fynd a dod am sawl mis. Mae’r clefyd ei hun yn para rhai blynyddoedd.
Gydag amser, bydd y cyflenwad gwaed i ben y ffemwr yn dychwelyd a’r asgwrn yn dechrau tyfu’n ôl.
Mae triniaeth ar gyfer Perthes yn canolbwyntio ar helpu’r asgwrn i dyfu’n ôl i siâp mwy crwn sy’n dal i ffitio i grau’r glun. Bydd hyn yn helpu cymal y glun i symud yn iawn ac yn atal problemau gyda’r glun pan fydd y plentyn yn tyfu’n oedolyn.
Mae’r effeithiau hirdymor yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw’r newid i siâp cymal y glun oherwydd y clefyd. Bydd rhai cleifion yn dioddef o arthritis poenus rhyw dro pan fyddan nhw’n oedolion ac efallai y bydd angen clun newydd arnyn nhw.
Bydd nifer fach o blant sydd wedi cael eu heffeithio yn parhau i deimlo poen ac anystwythder am flynyddoedd, er nad yw’r clefyd yn weithredol mwyach. Efallai y bydd y plant hyn angen llawdriniaethau ychwanegol.
Mae mwy na hanner y plant sydd â chlefyd Perthes yn dychwelyd i weithgareddau arferol o fewn ychydig flynyddoedd i ddechrau’r clefyd.
Mae tua 60% o blant sydd â chlefyd Perthes yn gwella heb unrhyw driniaeth.
Fodd bynnag, mae’n bwysig i bob plentyn gael gwasanaeth orthopedig yn rheolaidd dros gyfnod y salwch. Bydd yn rhaid i’r plentyn fynd i glinig bob ychydig fisoedd i gael archwiliad a phelydrau-X, er mwyn i ni allu monitro cynnydd a nodi a thrin cleifion nad ydynt yn gwneud cystal.
Mae triniaeth ar gyfer clefyd Perthes yn dibynnu ar ddifrifoldeb y clefyd. Mae’n gallu cynnwys ffisiotherapi, defnyddio baglau, plastrau, neu weithiau lawdriniaeth i ail-lunio’r asgwrn o amgylch cymal y glun.
Efallai y bydd angen i rieni geisio cyfyngu ar weithgareddau corfforol eu plentyn, yn enwedig campau cyswllt pan fydd y clefyd yn weithredol. Wrth ystyried triniaeth, mae’n bosibl y bydd meddyg yn argymell triniaeth o’r enw arthrogram. Mae hyn yn cynnwys chwistrellu llifyn sy’n cael ei ddangos ar belydr-X o gymal y glun o dan anesthetig. Yna, bydd pelydr-X yn cael ei wneud gyda’r llifyn yn y cymal a bydd hyn yn ein helpu i benderfynu a fyddai llawdriniaeth o gymorth.
Mae ymarferion ffisiotherapi yn cynnwys gweithgareddau ac ymarferion i annog ystod o symudiadau o amgylch cymal y glun, cryfhau’r cyhyrau ac addysgu teuluoedd a rhoddwyr gofal ynghylch natur y cyflwr a chyfeirio at weithgareddau sy’n gallu helpu.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am y wybodaeth hon, cysylltwch ag Adran Cleifion Allanol Dolffin ar 02921 847577.
Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.