Clefyd Sever

Poen esgyrnog yn y sawdl yw clefyd Sever, a all fod yn gysylltiedig â thwf arferol.

Ymarferion

Ymestyn llinyn y gar: Rhowch eich traed yn wastad yn erbyn wal. Ymestynnwch eich dwylo ymlaen i gyffwrdd bysedd y traed yn gyfforddus. Teimlwch yr ymestyniad yng nghefn croth eich coes.

Daliwch yr ymestyniad am 30 eiliad, yna gollyngwch yr ymestyniad a’i ailadrodd 3 gwaith.

Sever's

Mae’r poen hwn yn cael ei achosi pan fydd tyniant ailadroddus lle mae cyhyrau croth y goes yn mynd i mewn i’r sawdl.

Mae’r tyniant hwn yn gallu digwydd o ganlyniad i achosion gweithredol (mwy o ymarfer corff a gweithgaredd) neu achosion goddefol (cynnydd yn y gyfradd twf).

Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am y wybodaeth hon, cysylltwch ag Adran Cleifion Allanol Dolffin ar 02921 847577.

Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4X

Os nad oes gan eich plentyn apwyntiad wedi’i drefnu gyda’r adran ffisiotherapi a bod y symptomau’n parhau, neu os nad ydynt yn gwella’n raddol, yna gallwch hunan-atgyfeirio eich plentyn i’r Adran Cleifion Allanol Ffisiotherapi Pediatrig trwy ffonio’r llinell atgyfeirio ar 02921 836908.

 

Os oes gan eich plentyn broblem nad yw’n gwella fel y byddech chi’n disgwyl gyda hunanofal, dylech gysylltu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gallai hyn fod yn feddyg teulu, fferyllydd, Gwasanaeth Podiatreg y GIG neu Bodiatrydd Preifat. 

Gwnewch yn siwr fod eich podiatrydd wedi cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei (h)enw. 

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.