Croeso i NewidCyflym!
Gweithgareddau i annog traed a choesau cryf, iach, wedi’u llunio gan weithwyr iechyd proffesiynol yn arbennig ar gyfer plant.
Meddai’r tîm Newid Cyflym: “Mae’n bwysig gofalu am ein hunain drwy fwyta’n dda a bod yn actif. Mae ein traed yn brysur iawn ac mae eu cadw’n gryf yn bwysig i’n helpu i wneud pethau difyr fel neidio, hopian, rhedeg, dawnsio.”
Mae’r cymeriadau yma wedi’u gwisgo yn barod ar gyfer parti. Mae yma 10 o ymarferion byr gyda chyfarwyddiadau ysgrifenedig i helpu.
Ceisiwch ddilyn beth mae’r cymeriadau’n ei wneud bob dydd.
Cael hwyl yw’r pwrpas, felly peidiwch â phoeni os ydych chi’n cael trafferth. Efallai y bydd rhai ohonyn nhw’n anodd ar y dechrau ond drwy ymarfer bob dydd byddan nhw’n dod yn haws.
Ni ddylai’r ymarferion achosi unrhyw boen i chi – os byddant, dylech ofyn i weithiwr iechyd proffesiynol am gyngor ar sut i addasu’r ymarferion.
Mae chwilota yn yr awyr agored yn gyfle gwych i symud bob dydd ac mae’n ein helpu i gadw’n iach.
Mae’r dylluan wedi bod yn gwylio pa ymarferion y mae’r anifeiliaid a’r trychfilod wedi bod yn eu gwneud.
Mae’r rhain yn ymarferion pwysig i gadw ein breichiau a’n coesau’n gryf ac yn iach.
Beth am grwydro o amgylch yr ardd gyda’n gilydd, ydych chi’n barod i wneud rhywfaint o ymarfer corff?
Pecyn Adnoddau a Gwybodaeth
Os hoffech becyn Cyn-ysgol NewidCyflym ar gyfer eich lleoliad, cysylltwch a’ch Cydlynydd Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy am ragor o wybodaeth.
Os yw eich lleoliad y tu allan i ardaloedd awdurdodau lleol Caerdydd a Bro Morgannwg, anfonwch fynegiad o ddiddordeb i GoodFood.Movement@wales.nhs.uk
Adborth
Os hoffech roi adborth ar unrhyw un o animeiddiadau NewidCyflym una llenwch ein ffurflen adborth.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.