Osgood Schlatter’s – Poen Pen-glin mewn Plant

Mae Osgood Schlatter’s yn boen sy’n cael ei deimlo ar y lwmp esgyrnog islaw cymal y pen-glin.

Mae’r poen yn digwydd pan fydd y cyhyr ar flaen y goes yn cael ei dynnu’n rhy dynn ar y pwynt lle mae’n cysylltu ag asgwrn y grimog. Cnepyn crimogol (tibial tuberosity) yw hwn ac mae’n teimlo fel lwmp esgyrnog ychydig islaw’r pen-glin.

Mae gweithgareddau ac ymarfer corff, neu hyrddiad o dyfu’n sydyn yn gallu rhoi straen ar y cyhyrau.

Osgood Schlatters - diagram pointing to inflammation on the knee cap./ Diagram o’r pen-glin gyda gewyn, llinyn, asgwrn, cyhyr a chartilag wedi’u labelu.

Os yw eich plentyn yn gloff ac yn datblygu unrhyw un o’r symptomau canlynol, dylech chi ffonio 111 ar frys a bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn penderfynu a oes angen gofal brys ar eich plentyn.

  • Poen sydyn yn y glun, y forddwyd neu ben-glin
  • Methu rhoi dim pwysau o gwbl ar y goes wrth sefyll neu gerdded
  • Y goes wedi newid ei siâp neu’n cyfeirio at ongl ryfedd
  • Teimlo’n anhwylus gyda thymheredd uchel, teimlo’n boeth ac yn crynu
  • Poen difrifol yng ngwaelod y bola
  • Symptomau sy’n gwaethygu

Efallai y bydd angen i’ch plentyn weld meddyg ar frys os yw wedi cwympo neu droi ei ben-glin a’r:

  • Pen-glin yn chwyddo’n syth
  • Pen-glin wedi cloi (methu ei symud o gwbl)
  • a Methu rhoi pwysau o gwbl ar y goes er mwyn sefyll neu gerdded

Os yw hyn yn digwydd, dylech chi ffonio 111 ar frys a bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn penderfynu a oes angen gofal brys ar eich plentyn.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am y wybodaeth hon, cysylltwch ag Adran Cleifion Allanol Dolffin ar 02921 847577.

Os nad oes gan eich plentyn apwyntiad wedi’i drefnu gyda’r adran ffisiotherapi a bod y symptomau’n parhau, neu os nad ydynt yn gwella’n raddol, yna gallwch hunan-atgyfeirio eich plentyn i’r Adran Cleifion Allanol Ffisiotherapi Pediatrig trwy ffonio’r llinell atgyfeirio ar 02921 836908.

Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.