Mae llawer o wahanol fathau o anffurfiadau traed a’r rhai mwyaf cyffredin yw bys cam (hammer toe) a bys morthwyl (mallet toe).
Mae rhai yn hyblyg ac mae’n bosibl eu sythu a’u hadfer. Mae eraill yn sefydlog a’r unig ffordd o’u sythu yw drwy lawdriniaeth.
Dyma rai symptomau:
Hunangymorth a thriniaethau cartref yw’r ffordd symlaf ac yn aml iawn y ffordd orau o ddatrys y problemau hyn.
Esgidiau
Mae esgidiau â siâp anghywir neu rai sydd ddim yn ffitio’n iawn yn rhoi pwysau diangen ar fysedd traed. Esgidiau llydan gyda ffasnin sydd orau.
Gwahanwyr bysedd traed
Gall y rhain atal y bysedd traed rhag rhwbio yn erbyn ei gilydd. Maen nhw’n helpu i sythu’r bysedd a lleihau pwysau. Mae sawl math ar gael yn eich fferyllfa leol neu ar-lein.
Yn syml iawn, gosodwch y bys lle y dylai fod. Fe wnaiff hyn ymestyn y tendonau sydd wedi byrhau. Ddylai ymestyniadau ddim achosi poen, dim ond teimlo ychydig yn anghyfforddus yn ystod yr ymestyniad.
Os oes gennych anaf neu boen parhaol sydd ddim yn gwella wrth ddefnyddio’r dulliau hyn, gofynnwch am gyngor Podiatreg.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.