Fel arfer bydd symptomau yn ymddangos adeg y glasoed (9-14 oed), pan fydd plentyn neu berson ifanc yn cael hyrddiad o dyfu’n sydyn neu o ganlyniad i newid mewn lefelau gweithgareddau.
Dim ond un pen-glin sy’n boenus fel arfer ond gall y ddwy gael eu heffeithio.
Os yw eich plentyn yn gloff ac yn datblygu unrhyw un o’r symptomau canlynol, dylech chi ffonio 111 ar frys a bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn penderfynu a oes angen gofal brys ar eich plentyn.
Efallai y bydd angen i’ch plentyn weld meddyg ar frys os yw wedi cwympo neu droi ei ben-glin a’r:
Os yw hyn yn digwydd, dylech chi ffonio 111 ar frys a bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn penderfynu a oes angen gofal brys ar eich plentyn.
Y symptomau yw:
Fel arfer bydd y symptomau nodweddiadol yn rhoi diagnosis amlwg. Does dim angen pelydrau-X na sganiau.
Gall y boen ym mhen-glin eich plentyn wella o fewn ychydig fisoedd drwy ddilyn y cyngor hwn, ond mewn rhai achosion gall symptomau barhau am 12-18 mis.
Lleihau poen
Gwella hyblygrwydd a hyd meinweoedd
Mae’n bwysig sicrhau bod y meinweoedd o amgylch y pen-glin yn hyblyg. Dylai hyn helpu i leihau’r poen. Edrychwch ar y tab nesaf am ymarferion addas a fydd yn helpu i ymestyn y meinweoedd.
Addasu gweithgareddau
Mae ymgymryd â gweithgareddau wrth eich pwysau eich hun yn ffactor pwysig iawn wrth reoli’r poen.
Mae’n bwysig parhau i symud ond hefyd i fod yn ymwybodol o’r poen a gwybod pryd i roi gorau i’r gweithgaredd er mwyn atal y poen rhag mynd yn rhy ddwys.
Ceisiwch helpu’ch plentyn i feddwl am boen ar raddfa o 0 i 10. Mae lefel 0 yn golygu nad oes gennych unrhyw boen, lefel 10 yw’r poen gwaethaf y gallwch chi ei ddychmygu. Mae defnyddio’r raddfa hon yn ein helpu i benderfynu pryd i barhau a phryd i roi’r gorau i weithgaredd drwy ddefnyddio goleuadau traffig.

Poen lefel goch yw lefelau 7-10. Mae hyn yn rhy uchel. Dylai’r plentyn roi’r gorau i’r gweithgaredd a gadael i’r poen setlo.
Lefel oren yw lefelau 4-6. Mae hyn yn dderbyniol. Mae eich plentyn yn gallu parhau â’r gweithgaredd ond efallai y bydd angen iddo feddwl am orffwys yn fuan.
Lefel gwyrdd yw lefelau 0-3. Dyma’r parth diogel ac mae’n golygu bod modd parhau â’r gweithgaredd.
Meddyliwch am wythnos o weithgarwch eich plentyn. Mae gweithgarwch yn bwysig iawn er mwyn cadw’n gryf ac yn iach ond mae’n hanfodol peidio â gorwneud pethau. Rydym yn argymell cael diwrnod neu ddau heb weithgarwch bob wythnos er mwyn gorffwys neu gymryd rhan mewn gweithgareddau eraill. Mae’n bwysig hefyd i gymryd 2-3 mis i ffwrdd o gampau penodol yn ystod y flwyddyn.
Darllenwch ragor am hyn ar ein tudalen ‘Atal Anafiadau Chwaraeon’.
Wrth ystyried gwneud rhagor o weithgaredd corfforol, gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n cynyddu eich amser hyfforddi, nifer yr ailadroddiadau, na chyfanswm y pellter ddim mwy na 10% bob wythnos (e.e. os ydych chi’n rhedeg 10 milltir yr wythnos ar hyn o bryd, cynyddwch 1 filltir yr wythnos).
Rydym hefyd yn argymell cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn hytrach nag un gamp benodol er mwyn atal anafiadau gor-ddefnyddio a chwythu plwc.
Os bydd unrhyw un o’r ymarferion hyn yn cynyddu poen eich plentyn, gofynnwch am gyngor pellach gan eich ffisiotherapydd. Mae’n bwysig gwneud yr ymarferion hyn o leiaf deirgwaith y dydd, cyn ac ar ôl unrhyw weithgareddau sy’n achosi poen yn y pen-glin hefyd.
Ymestyniad Cyhyr Pedwarpen yn Sefyll
Sefwch gyda’r traed gyda’i gilydd. Plygwch ben-glin y goes sy’n cael ei hymestyn, defnyddiwch eich llaw i ddod â’ch sawdl at eich pen-ôl. Gwnewch yn siŵr eich bod yn sefyll yn dalsyth, gwthiwch eich pen-ôl i mewn a gwnewch yn siŵr bod eich pengliniau’n wastad. Daliwch am 30 eiliad, yna rhyddhewch y goes ac ailadrodd 3 gwaith.
Ymestyniad Cyhyr Pedwarpen yn Gorwedd Wyneb i Waered
Gorweddwch ar eich bola. Plygwch ben-glin y goes sy’n cael ei hymestyn, defnyddiwch eich llaw i ddod â’ch sawdl at eich pen-ôl. Os nad ydych chi’n gallu cyrraedd eich troed, rhowch dywel o amgylch y pigwrn, daliwch y tywel gyda’ch llaw a’i ddefnyddio i ddod â’r sawdl at eich pen-ôl. Gwnewch yn siŵr nad yw eich cluniau yn codi oddi ar y llawr, efallai y bydd angen rhywun arnoch i’ch helpu i gadw’r cluniau’n wastad ar y llawr. Daliwch am 30 eiliad, yna rhyddhewch y goes ac ailadrodd 3 gwaith.

Ymestyniad Plygydd y Glun
Ewch i safle hanner penlinio, gyda’r goes sydd i gael ei hymestyn yn goes ôl. Pwyswch i mewn i’r goes flaen, gan gadw’r corff yn unionsyth. Dylech deimlo’r ymestyniad ar draws blaen clun y goes ôl. Daliwch am 30 eiliad, yna rhyddhewch y goes ac ailadrodd 3 gwaith.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am y wybodaeth hon, cysylltwch ag Adran Cleifion Allanol Dolffin ar 02921 847577.
Os nad oes gan eich plentyn apwyntiad wedi’i drefnu gyda’r adran ffisiotherapi a bod y symptomau’n parhau, neu os nad ydynt yn gwella’n raddol, yna gallwch hunan-atgyfeirio eich plentyn i’r Adran Cleifion Allanol Ffisiotherapi Pediatrig trwy ffonio’r llinell atgyfeirio ar 02921 836908.
Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.