Mae gennym ddealltwriaeth helaeth o ddatblygiad plant a chyflyrau plentyndod, gan gynnwys problemau datblygiadol, niwrolegol a chyhyrysgerbydol.
Ein nod yw helpu plant i wneud y mwyaf o’u galluoedd ac annog adferiad yn dilyn salwch, anabledd neu anaf. Rydym yn eu helpu i wella ac adfer gallu drwy weithgareddau corfforol megis ymarfer corff a symud, yn ogystal â darparu cyngor ac adnoddau arbenigol.
I ddechrau, bydd angen i ni gwblhau asesiad o’ch plentyn neu berson ifanc, yn seiliedig ar y rheswm dros ei gyfeirio. Mae hyn yn cynnwys casglu gwybodaeth gan rieni neu warcheidwaid cyfreithiol a ffynonellau eraill. Efallai y bydd angen i ni gynnal arsylwad ac archwiliad corfforol, gan edrych ar gryfder a chydlynu’r plentyn, datblygiad echddygol, ystum, cydbwysedd a galluoedd gweithredu.
Yn dilyn asesiad, penderfynir a fydd y plentyn neu’r person ifanc yn debygol o elwa o gyfnod o ofal Ffisiotherapi. Byddwn yn trafod dewisiadau triniaeth gyda’n gilydd ac yn cytuno ar nodau therapi clir, realistig. Mae’n bwysig bod rhieni/gwarcheidwaid cyfreithiol yn cael eu hysgogi i annog eu plentyn i gyflawni’r rhaglen Ffisiotherapi.
Gall hyn gynnwys gweithgareddau, ymarferion neu gyngor penodol i’w gwneud yn y cartref, yr ysgol neu’r feithrinfa.
Rydym yn darparu asesiad ffisiotherapi a thriniaeth mewn cyfnodau o ofal. Mae hyn yn golygu y byddan nhw’n cael eu rhyddhau ar ôl cwrs o fewnbwn Ffisiotherapi. Os oes angen mewnbwn Ffisiotherapi pellach ar eich plentyn yn ddiweddarach, gellir ei ailgyfeirio, neu ei hunangyfeirio yn ôl i’r gwasanaeth Ffisiotherapi
Gall gweithiwr gofal iechyd proffesiynol eich atgyfeirio yn dilyn asesiad, er enghraifft eich meddyg teulu, Ymwelydd Iechyd neu Therapydd Galwedigaethol.
Fel arfer bydd gwasanaethau Ffisiotherapi Cymunedol yn cael eu darparu o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.30am a 4.30pm.
Gallwch gyfeirio eich plentyn at y gwasanaeth hwn drwy:
Lenwi’r Ffurflen We (bydd clicio ar y gair sydd wedi’i uwcholeuo yn mynd â chi at dudalen we allanol).
Ein ffonio ar 02921 836908.

Ysgrifennu at
Ganolfan Gweinyddu Ffisiotherapi
Tŷ Coetir
Heol Maes-Y-Coed
Caerdydd CF14
Ffôn: 02921 836908
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.