Cacen Ffrwythau Nadolig

Bwydo: 12
Cyfanswm yr Amser: 4 1/2 awr
Cynhwysion:
- 450g o ffrwythau cymysg
- 110g o ddêts
- 110g o fricyll sych
- 275ml o ddŵr
- 150ml o sudd oren
- 150g o flawd codi gwenith cyflawn
- 50g o almonau mâl (dewisol)
- 2 lwy fwrdd o sbeis cymysg

Dull
- Trochwch y ffrwythau yn y dŵr a’r sudd oren am o leiaf 3 awr (gellir ei adael dros nos). Draeniwch unrhyw hylif sy’n weddill.
- Cynheswch y ffwrn i 180°C / ffan 160°C / marc nwy 4.
- Ychwanegwch y blawd, y sbeis cymysg a’r almonau mâl (os ydych chi’n eu defnyddio) at y ffrwythau. Cymysgwch bopeth gyda’i gilydd.
- Arllwyswch y gymysgedd i dun torth wedi’i leinio neu wedi’i seimio, neu i bowlen pwdin. Pobwch am 1 ½ awr. Gorchuddiwch â ffoil am yr ½ awr olaf.
- Gadewch iddo oeri cyn ei dorri’n dafelli.
Hefyd yn yr adran hon
Menu