Cawl Madarch a Chnau Castan

Bwydo: 4
Cyfanswm yr Amser: 45 munud
Cynhwysion:
- 1 llwy fwrdd o olew olewydd
- 1 winwnsyn mawr, wedi’i dorri’n fân
- 3 ewin garlleg, wedi’u torri’n fân
- 1 llwy fwrdd o deim sych
- 400g o fadarch cnau castan, wedi’u trimio a’u sleisio
- 900ml o stoc llysiau isel mewn halen, wedi’i wneud gydag 1 ciwb stoc
- 100g o gnau castan cyfan wedi’u coginio

Dull
- Cynheswch yr olew olewydd mewn padell fawr ac ychwanegwch y winwnsyn, y garlleg a’r teim. Tro-ffriwch am 5 munud.
- Ychwanegwch y madarch a’u coginio ar wres uchel am tua 5 munud nes eu bod wedi crebachu. Ychwanegwch y stoc llysiau a’r cnau castan a’u mudferwi am 15 munud.
- Rhowch y cawl mewn blendiwr a’i gymysgu nes ei fod yn llyfn. Arllwyswch ef i mewn i’r badell, ei droi a’i gynhesu.
- Gweinwch gyda rhôl fara gwenith cyflawn fel ffeibr ychwanegol
Hefyd yn yr adran hon
Menu