Cinio Nadolig Haws

Bwydo: 4

Cyfanswm yr Amser: 10 – 15 munud

Cynhwysion:

  • 1 x tun (mawr) 567g o datws, mewn dŵr
  • 1 x tun 290g o bys, mewn dŵr
  • 1 x tun 300g o foron, mewn dŵr
  • 1 x tun 325g o india-corn, mewn dŵr
  • Pecyn 125g o dwrci/cyw iâr/ham wedi’i goginio a’i sleisio
  • Gronynnau grefi â llai o halen
  • 4 llwy fwrdd o saws llugaeron (dewisol)

Dull

  1. Agorwch a rinsiwch y tatws tun cyn eu rhannu rhwng 4 plât y gellir eu rhoi mewn micro-don. Ailadroddwch hyn ar gyfer yr holl lysiau tun.
  2. Rhannwch y cig wedi’i goginio rhwng y 4 plât. Cynheswch bob plât yn y ficro-don am 2 i 3 munud ar bŵer llawn. Os nad ydyn nhw’n ddigon cynnes, dylech eu coginio am gyfnodau o 1 funud ar y tro nes eu bod nhw.
  3. Tra bod y llysiau a’r cig wedi’i goginio yn cynhesu, gwnewch y grefi gan ddilyn cyfarwyddiadau’r pecyn.
  4. Unwaith y bydd yr holl fwyd yn boeth iawn, arllwyswch y grefi drosto ac ychwanegwch lwy fwrdd o saws llugaeron i bob plât (dewisol), yna gweinwch.

Os oes gennych ffwrn, gellir cynhesu’r holl lysiau tun ar yr hob gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar y tun.

Hefyd yn yr adran hon

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content