Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Therapi Galwedigaethol mewn Trawma ac Orthopaedeg Ddewisol

Mae’r tîm Therapi Galwedigaethol trawma ac orthopaedeg ddewisol wedi’i leoli yn Ysbyty’r Brifysgol Llandochau. Rydyn ni’n rhan annatod o’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu i gleifion sy’n cael llawdriniaeth orthopaedig. Rydyn ni’n arbenigo mewn trin cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd damweiniau trawmatig, a chleifion sy’n cael llawdriniaeth wedi’i chynllunio.

Mae mewnbwn Therapi Galwedigaethol ar gyfer pobl sy’n cael llawdriniaeth orthopaedeg ddewisol yn gallu digwydd yn yr ysbyty yn ystod y broses dderbyn neu’n gynweithredol drwy ymgynghoriad ffôn neu fideo. Bydd asesiad ac ymyrraeth ar gyfer cleifion trawma sydd wedi torri esgyrn yn digwydd yn yr ysbyty.

Y tîm Therapi Galwedigaethol Trawma

Mae’r tîm Therapi Galwedigaethol Trawma wedi’u lleoli mewn dau safle:

  • Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd
  • Ysbyty Athrofaol Llandochau

Pan fyddwch chi wedi cael llawdriniaeth yn dilyn anaf – torri clun, pen-glin neu bigwrn er enghraifft – bydd y Therapydd Galwedigaethol yn eich cyfarfod ar y ward.

Byddan nhw’n:

  • cael gwybod sut roeddech chi’n ymdopi gartref gyda thasgau bob dydd cyn dod i’r ysbyty
  • siarad am sut y gallai hyn newid ar ôl eich llawdriniaeth
  • cynllunio help pan fyddwch chi’n dychwelyd adref

Y tîm Therapi Galwedigaethol Dewisol

Mae’r tîm Therapi Galwedigaethol Dewisol wedi’u lleoli yn Ysbyty’r Brifysgol Llandochau.

Mae Therapi Galwedigaethol ar gyfer llawdriniaethau dewisol – clun neu ben-glin newydd, neu lawdriniaeth ar droed neu bigwrn er enghraifft – yn dechrau cyn eich llawdriniaeth.

Efallai y bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi dros y ffôn cyn eich llawdriniaeth.

Bydd yr aelod o staff yn:

  • darganfod sut rydych chi’n ymdopi gartref ar hyn o bryd
  • siarad am sut y gallai hyn newid ar ôl eich llawdriniaeth
Pan fyddwch chi wedi cael eich llawdriniaeth, bydd y Therapydd Galwedigaethol ar y ward yn gallu helpu i gynllunio ar gyfer dychwelyd adref.

Adnoddau Defnyddiol

Mae’r dolenni isod yn ddefnyddiol wrth i chi baratoi ar gyfer eich llawdriniaeth neu eich adferiad: 

Am fwy o wybodaeth am arthritis, cliciwch ar y dolenni isod:

Darllenwch y dolenni isod am wybodaeth ddefnyddiol am gwympiadau ac atal cwympiadau:

Mae mwy o wybodaeth ar y tudalennau canlynol am boen yn y cymalau a rheoli poen:

Mae eich lles meddyliol, corfforol ac emosiynol i gyd yn cael effaith ar ba mor dda rydych chi’n gwella ar ôl llawdriniaeth ddewisol neu drawma. Dyma rai adnoddau sy’n gallu helpu eich lles cyffredinol.

Fideos sy’n gallu helpu cyn i chi ddod i’r ysbyty

Paratoi ar gyfer Llawdriniaeth ar y Glun: Canllaw Ymarferol

Play Video about Nurse taking someone's blood pressure

Beth i’w ddisgwyl yn yr ysbyty: derbyniad a llawdriniaeth

Play Video about Patient talking to a consultant

Adferiad ar ôl cael eich clun newydd

Play Video about Coming downstairs with walking stick

Ymarferion i’w gwneud cyn eich llawdriniaeth

Gwybodaeth sy’n gallu bod yn ddefnyddiol cyn ac ar ôl eich llawdriniaeth


Manylion cyswllt / cyfeirio

Byddwch yn cael eich cyfeirio at y tîm drwy eich meddyg teulu neu eich ymgynghorydd.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content