Bwyta'n dda

Mae bwyta deiet iach a chytbwys yn chwarae rhan bwysig wrth ofalu am ein hiechyd, ein llesiant a bod yn weithgar yn gorfforol. 

Group of people

Cinio Rhost Nadoligaidd

Os hoffech chi wneud eich cinio Nadolig ychydig yn iachach, beth am roi cynnig ar yr opsiwn hwn?

Er mwyn cael isdeitlau Cymraeg, cliciwch ar y gosodiadau ar y fideo ac yna dewiswch isdeitlau.

Mae llawer ohonom yn treulio mwy o amser dan do ac yn mynd drwy newidiadau i’r ffordd rydyn ni’n byw a chysylltu ag eraill. 

Diolch byth, mae sicrhau ein bod yn bwyta ac yfed cystal ag y gallwn yn rhywbeth yr ydym yn gallu ei reoli yn ystod y cyfnod ansicr hwn, sy’n un ffordd bwysig o ofalu am ein cyrff a’n meddyliau.

Fitamin D 

Mae fitamin D yn helpu i reoleiddio faint o galsiwm a ffosffad sydd yn y corff.

Mae angen y maetholion hyn i gadw esgyrn, dannedd a chyhyrau’n iach.

Mae ein cyrff yn gwneud fitamin D o dan y croen pan fyddwn allan yng ngolau dydd. Mae hyd yn oed deiet iach a chytbwys sy’n rhoi’r holl fitaminau a daioni eraill sydd eu hangen arnoch yn annhebygol o roi digon o fitamin D.

Gyda llawer ohonom yn treulio mwy o amser dan do yn ystod pandemig COVID-19, efallai y bydd llawer ohonom yn cael trafferth cynhyrchu digon o Fitamin D yn naturiol. Dysgwch fwy gan Gymdeithas Deietegwyr y DU am sut i sicrhau eich bod yn cael digon o Fitamin D, neu gwyliwch y fideo canlynol.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.