Dysffagia yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio anawsterau wrth gnoi a llyncu bwyd, diod a / neu boer. Mae dysffagia’n digwydd pan fydd y cyhyrau rydyn ni’n eu defnyddio wrth gnoi a llyncu (gwefusau, gên, tafod, taflod a chyhyrau gwddf) yn mynd yn wan ac yn anodd eu symud. Dysffagia yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio anawsterau wrth gnoi a llyncu bwyd, diod a / neu boer. Mae dysffagia’n digwydd pan fydd y cyhyrau rydyn ni’n eu defnyddio wrth gnoi a llyncu (gwefusau, gên, tafod, taflod a chyhyrau gwddf) yn mynd yn wan ac yn anodd eu symud.
Mewndiwbio yw gosod tiwb endotraceal plastig hyblyg (ETT) yn eich ceg a’ch gwddf. Fel arfer, mae’n cael ei osod pan fyddwch chi’n cysgu neu’n anymwybodol.
Mae tystiolaeth sy’n dangos bod mewndiwbio yn gallu achosi;
Gall un neu bob un o’r uchod bara am ychydig ddyddiau, ychydig fisoedd neu’n fwy parhaol. Mae llawer o ffactorau sy’n cyfrannu at hyn. Bydd eich tîm meddygol a’ch therapydd lleferydd yn gallu rhoi rhagor o gyngor i chi.
Mae’r uchod i gyd yn gallu cyfrannu at anawsterau bwyta, yfed a llyncu; mae’n gallu cynnwys llyncu eich poer eich hun hefyd.
Mewnsugno yw’r enw meddygol am boer, bwyd a diod sy’n ‘mynd i lawr y ffordd anghywir’. Os bydd mewnsugno’n digwydd yn rheolaidd, mae’n gallu achosi niwmonia mewnsugno – mae hwn yn haint cas iawn ar y frest a gall wneud pobl yn sâl iawn.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.