Atal Anafiadau Chwaraeon

Esgyrn, cyhyrau a thendonau plant


Yn wahanol i oedolion, mae esgyrn, cyhyrau a thendonau plant yn tyfu a hynny’n gallu eu gwneud yn fwy tueddol o gael anafiadau.

Mae modd atal rhai anafiadau i gyhyrau, esgyrn a meinweoedd meddal yn ystod plentyndod.

Nod yr awgrymiadau canlynol yw lleihau’r risg:

Children's Football Match / Gêm Pêl-droed Plant

Cynhesu a dadgynhesu digonol a rheolaidd wrth wneud ymarfer corff a chwaraeon

Cafodd y fenter Power Up to Play ei chreu gan weithwyr meddygol proffesiynol a ddatblygodd ymarferion cynhesu syml yn seiliedig ar dystiolaeth, er mwyn lleihau’r risg o anafiadau pen-glin y gellir eu hatal mewn chwaraeon ieuenctid.

Teen girls doing stretches / Merched yn eu harddegau yn gwneud ymarferion ymestyn

Mae gan Power Up to Play adnoddau am ddim gan gynnwys ymarferion cynhesu, canllawiau chwaraeon penodol a hyfforddiant am ddim i hyfforddwyr ar eu gwefan:
Power Up to Play – Helpu i atal anafiadau pen-glin mewn chwaraeon ieuenctid

Mae llawlyfr FIFA 11+ yn rhaglen gynhesu benodol ar gyfer pêl-droed, gyda thystiolaeth ei bod yn gallu helpu i leihau anafiadau o 30-70% pan gaiff ei defnyddio’n rheolaidd.

Dylid gwneud ymarferion yn gywir ac yn ddelfrydol dylid eu gwneud fel ymarferion cynhesu 2-3 gwaith yr wythnos.

Sicrhau lefelau priodol o oruchwyliaeth a hyfforddiant wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau

Dylai technegau a sgiliau cywir gael eu haddysgu gan weithiwr ffitrwydd proffesiynol hyfforddedig i atal anafiadau. Mae mathau o hyfforddiant cryfder a chyflyru yn gallu bod yn fuddiol, yn enwedig ar gyfer pêl-droed a chwaraeon trawiad nerthol fel rygbi, cyhyd â’u bod wedi’u goruchwylio a’u rhaglennu’n briodol.

Coaching junior team / Hyfforddi tîm iau

Mae rhagor o wybodaeth am atal anafiadau a thriniaethau yn dilyn anafiadau ar y tudalennau isod:

Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am y wybodaeth hon, cysylltwch ag Adran Cleifion Allanol Dolffin ar 02921 847577.

Os nad oes gan eich plentyn apwyntiad wedi’i drefnu gyda’r adran ffisiotherapi a bod y symptomau’n parhau, neu os nad ydynt yn gwella’n raddol, yna gallwch hunan-atgyfeirio eich plentyn i’r Adran Cleifion Allanol Ffisiotherapi Pediatrig trwy ffonio’r llinell atgyfeirio ar 02921 836908.

Hyfforddiant addas i oedran

  • Dylai gweithgareddau fod yn addas i oedran a lefel datblygiad y plentyn
  • Defnyddiwch oedran y plentyn fel canllaw ar gyfer oriau hyfforddi mewn wythnos – dylen nhw dreulio llai o oriau’r wythnos na’u hoedran wrth gymryd rhan mewn chwaraeon wedi’u trefnu

Sicrhau digon o orffwys ac adferiad

Mae Academi Pediatreg America yn argymell y math canlynol o orffwys ar ôl athletau, hyfforddiant chwaraeon penodol ac ymarfer, er mwyn caniatáu adferiad corfforol a seicolegol:

  • o leiaf 1 i 2 ddiwrnod i ffwrdd bob wythnos
  • 1 mis i ffwrdd o chwaraeon o leiaf ddwywaith y flwyddyn

Maeth a hydradu

Mae angen bwyta ac yfed yn ddigonol hefyd – mae gofynion maethol yn amrywio yn ystod y blynyddoedd pan fydd plant yn tyfu; dylent fod yn ddigonol ar gyfer twf

normal ac yn cyd-fynd â’r gofynion egni a maeth sydd eu hangen ar gyfer lefelau gweithgarwch corfforol. Sicrhewch fod plant yn hydradu drwy yfed dŵr neu ddiodydd chwaraeon heb siwgr, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf.

oung person with watermelon / Person ifanc gyda melon dŵr

Sicrhau amrywiaeth o weithgareddau

Mae cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a chwaraeon yn bwysig wrth leihau’r risg o anafiadau gorddefnyddio, ond hefyd straen a chwythu plwc. Yn ogystal, mae’n gallu gwella ffitrwydd corfforol cyffredinol a datblygiad sgiliau echddygol, a chynyddu cymhelliant a chyfranogiad mewn gweithgareddau ymarfer corff.

Sicrhau digon o gwsg

Mae cael digon o gwsg yn hanfodol ar gyfer gorffwys ac adferiad; mae cwsg gwael wedi’i gysylltu’n gryf â mwy o anafiadau mewn athletwyr. Bydd nifer yr oriau cwsg yn dibynnu ar oedran ond mae angen rhwng 8 a 12 awr. Mae’n bwysig annog arferion cwsg iach:

  • cyfyngu ar gaffein ac osgoi unrhyw gaffein ar ôl amser cinio
  • osgoi prydau bwyd mawr cyn mynd i’r gwely
  • cael trefn amser gwely ac amser gwely priodol, gan gynnwys amser tawel (e.e. amser bath/cawod neu ddarllen)
  • dim amser sgrin o leiaf 1 awr cyn mynd i’r gwely
Child sleeping / Plentyn yn cysgu

Dychwelyd at chwaraeon ar ôl anaf

Cyfergyd

Welsh Rugby Union logo | Logo Undeb Rygbi Cymru

Mae cyfergyd yn anaf i’r ymennydd sydd wedi’i achosi gan ergyd uniongyrchol i’r pen, neu rannau eraill o’r corff sy’n achosi i’r pen symud yn gyflym.

Mae gan Undeb Rygbi Cymru ganllawiau ar sut i gydnabod a rheoli cyfergyd tybiedig. Mae’r canllawiau hyn yn ymwneud â dychwelyd i chwaraeon yn dilyn cyfergyd.

Mân Anafiadau

Mae angen dychwelyd at weithgareddau chwaraeon yn raddol yn dilyn mân anafiadau fel ysigiadau, wrth i ystod o symudiadau, cryfder a swyddogaeth ddychwelyd.

Bydd hyn yn atal anafiadau pellach ac yn caniatáu gwellhad. Dilynwch y canllawiau a’r ymarferion priodol. Gallwch ddod o hyd i rai ymarferion adfer yn ein hadran ar Doresgyrn a Thrawma Plant.

Os nad yw’r symptomau’n gwella o fewn yr amserlenni disgwyliedig, yna ceisiwch gyngor meddygol.

Mae rhagor o wybodaeth am atal anafiadau a thriniaethau yn dilyn anafiadau ar y tudalennau isod:

Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am y wybodaeth hon, cysylltwch ag Adran Cleifion Allanol Dolffin ar 02921 847577.

Os nad oes gan eich plentyn apwyntiad wedi’i drefnu gyda’r adran ffisiotherapi a bod y symptomau’n parhau, neu os nad ydynt yn gwella’n raddol, yna gallwch hunan-atgyfeirio eich plentyn i’r Adran Cleifion Allanol Ffisiotherapi Pediatrig trwy ffonio’r llinell atgyfeirio ar 02921 836908.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.