Poen Pen-glin Mewn Plant

Sut mae’r pen-glin yn gweithio?

Y pen-glin yw cymal mwyaf y corff. Mae wedi’i leoli rhwng eich morddwyd a’ch crimog.

Mae gewynnau cryf, cyhyrau a thendonau, sy’n rhoi sefydlogrwydd, yn cynnal cymal y pen-glin, a chartilag sy’n gweithredu fel siocladdwr. Mae’r rhain i gyd yn sicrhau bod y pen-glin yn gallu symud.

Diagram of the knee with ligament, tendon, bone, muscle and cartilage labelled

Mae’n eithaf cyffredin i blant gwyno am boen pen-glin heb ddioddef unrhyw fath o drawma neu anaf, yn enwedig pobl ifanc actif. Gorddefnyddio yw’r rheswm mwyaf cyffredin dros boen pen-glin mewn plant.

Os yw eich plentyn yn gloff ac yn datblygu unrhyw un o’r symptomau canlynol, dylech chi ffonio 111 ar frys a bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn penderfynu a oes angen gofal brys ar eich plentyn.

  • Poen sydyn yn y glun, y forddwyd neu ben-glin
  • Methu rhoi dim pwysau o gwbl ar y goes wrth sefyll neu gerdded
  • Y goes wedi newid ei siâp neu’n cyfeirio at ongl ryfedd
  • Teimlo’n anhwylus gyda thymheredd uchel, teimlo’n boeth ac yn crynu
  • Poen difrifol yng ngwaelod y bola
  • Symptomau sy’n gwaethygu

Efallai y bydd angen i’ch plentyn weld meddyg ar frys os yw wedi cwympo neu droi ei ben-glin a’r:

  • Pen-glin yn chwyddo’n syth
  • Pen-glin wedi cloi (methu ei symud o gwbl)
  • a Methu rhoi pwysau o gwbl ar y goes er mwyn sefyll neu gerdded

Os yw hyn yn digwydd, dylech chi ffonio 111 ar frys a bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn penderfynu a oes angen gofal brys ar eich plentyn.

Poen Pen-glin

Rhagor o wybodaeth

Efallai y bydd y dolenni isod yn ddefnyddiol unwaith y bydd eich plentyn wedi gweld gweithiwr iechyd proffesiynol a chael diagnosis o’r cyflwr.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.