Poen yng nghefn y pigwrn/rhan isaf y goesMae Tendinopathi Achiles yn gyflwr sy’n achosi poen, chwyddo ac anhyblygedd yng nghefn rhan isaf y goes. Mae’n gallu effeithio ar ddwy ran wahanol y tendon Achiles – cefn y pigwrn ac ychydig uwchben y sawdl.
Mae’r symptomau’n tueddu i fod yn waeth ar ôl gorffwyso, yn enwedig yn y bore. Credir ei fod yn cael ei achosi gan straen ailadroddus. I’r rhan fwyaf o bobl, mae symptomau tendinopathi Achilles fel arfer yn gwella o fewn 3-6 mis ar ôl dechrau triniaeth.
Dyma rai triniaethau cyffredin:
I ddechrau, unwaith y bydd y cast wedi’i dynnu, mae’n arferol i’ch plentyn gwyno am boenau ac anghysur wrth ddefnyddio’r fraich honno’n amlach. Gellir rheoli’r rhain yn hawdd gyda chynhyrchion lleddfu poen.
Gweler canllawiau lleddfu poen y GIG 111 Cymru.
Gallwch ofyn am gyngor yn eich fferyllfa leol hefyd.
Efallai y bydd podiatregydd yn rhoi presgripsiwn mewnwadnau (insoles) i chi a fydd yn gymorth i ran isaf eich coes
.
Gwisgwch eich mewnwadnau yn raddol dros gyfnod o amser. Dechreuwch ei gwisgo am awr ar y diwrnod cyntaf a chynyddwch fesul awr bob dydd nes i chi fod yn eu gwisgo drwy’r dydd. Astudiwch eich traed ar ôl eu defnyddio rhag ofn eu bod nhw’n rhwbio.
Mae ychydig o boen yn gyffredin ar y dechrau wrth i’ch cyhyrau addasu i’r mewnwadnau. Dylai hyn wella’n raddol wrth i chi eu defnyddio.
Os byddwch chi’n dioddef cochni, pothelli neu boen newydd neu fwy o boen, tynnwch y mewnwadnau.

Esgidiau sy’n ffitio’n dda, gyda gwadnau cadarn a lasys neu strap, sy’n rhoi’r gynhaliaeth orau i’ch traed. Os yw eich esgidiau’n rhy hyblyg, fydd eich traed ddim yn cael y cadernid a’r cymorth y maent ei angen.
Dylai eich esgidiau:
Profwch eich esgidiau drwy eu plygu a throi’r gwadnau. Mae’n iawn gallu eu plygu rhywfaint bach, lle mae’r bysedd traed, wrth ddefnyddio ychydig o nerth ond dylai gweddill yr esgid aros yn gadarn.
Rydym yn argymell peidio defnyddio:
The Healthy Footwear Guide esgid cerdded gyda gwadnau siglo.
Ar y dechrau, gall yr ymarferion yma fod o gymorth:
Os oes gan eich plentyn broblem nad yw’n gwella fel y byddech chi’n disgwyl gyda hunanofal, dylech gysylltu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gallai hyn fod yn feddyg teulu, fferyllydd, Gwasanaeth Podiatreg y GIG neu Bodiatrydd Preifat.
Gwnewch yn siwr fod eich podiatrydd wedi cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei (h)enw.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.