Pigyrnau a Traed Plant

Sut mae’r traed a’r pigyrnau’n gweithio

Mae’r droed yn un o rannau mwyaf cymhleth y corff gyda 26 o esgyrn a 33 o gymalau bach.

Mae 3 asgwrn yn eich pigwrn sy’n ffurfio 2 gymal, sy’n caniatáu symud i fyny ac i lawr ac o ochr i ochr.

A diagram of the ankle joint. Arrows pointing to the bones and ligaments in the foot and ankle. / Diagram o gymal pigwrn gyda saethau yn pwyntio at esgyrn a gewynnau yn y droed a’r pigwrn.

Mae cymalau’r droed a’r pigwrn yn cael eu cynnal gan gyhyrau, tendonau a gewynnau sy’n caniatáu symudiad a sefydlogrwydd. Mae hyn yn gadael i’r traed a’r pigyrnau addasu i bob math o arwynebedd.

Os yw eich plentyn wedi cwympo neu os oes rhywbeth trwm wedi disgyn ar ei droed ac mae’n datblygu unrhyw un o’r arwyddion canlynol, dylech chi ffonio ar frys a bydd gweithiwr iechyd gofal proffesiynol yn penderfynu a oes angen gofal brys ar eich plentyn:

  • Poen sydyn yn y pigwrn neu’r droed
  • Anhawster rhoi pwysau ar y pigwrn neu’r droed er mwyn sefyll neu gerdded
  • Coes wedi newid ei siâp neu’n troi ar ongl ryfedd
  • Y pigwrn neu’r droed yn chwyddo ar unwaith

Poen Traed a Phigwrn

Rhagor o wybodaeth

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.