ESCAPE pain ar gyfer Cluniau/Pengliniau

Galluogi Hunanreoli ac Ymdopi â Phoen Arthritig gan ddefnyddio Ymarfer Corff (ESCAPE)

Mae ESCAPE-pain yn rhaglen adsefydlu ar gyfer pobl sydd â phoen cronig yn y cymalau. Mae’r rhaglen yn integreiddio hunanreoli addysgol a strategaethau ymdopi gyda threfn ymarfer corff sydd wedi’i unigoli ar gyfer pawb sy’n ei defnyddio.

Escape pain logo

Sut mae gweithdai ESCAPE Pain yn helpu pobl yng Nghaerdydd a’r Fro?

Mae’r rhaglen ESCAPE-pain yn helpu i ddeall eich cyflwr, yn dysgu pethau syml i chi y gallwch eu gwneud i’ch helpu eich hun ac yn mynd â chi drwy raglen ymarfer corff flaengar i’ch helpu i reoli eich poen yn well.

Ni fydd y rhaglen yn gwella eich poen yn llwyr, ond ei nod yw lleihau eich poen, gwella’ch gweithrediad corfforol, yn ogystal â’ch hyder yn eich gallu i reoli eich cyflwr.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnig dwy raglen ESCAPE-pain ar wahân:

  • ESCAPE-pain ar gyfer Cefnau – wedi’i gynllunio’n benodol er budd pobl â phoen cefn parhaus gan roi’r sgiliau a’r technegau i chi hunanreoli eich poen cefn. I gael gwybod mwy am ESCAPE-pain ar gyfer cefnau, ewch i’r dudalen we hon.
  • ESCAPE-pain ar gyfer cluniau/pengliniau – wedi’u cynllunio’n benodol er budd pobl ag arthritis y glun a’r pen-glin.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am y Rhaglen ESCAPE-pain.

Beth yw Osteoarthritis?

Ymarfer Corff gydag Arthritis

Cliciwch ar y ddolen isod i ddysgu mwy am arthritis o wefan VERSUS Arthritis: https://www.versusarthritis.org/

Beth am gael golwg ar y fideos byr isod gan bobl sydd wedi cymryd rhan yn y Rhaglen ESCAPE-pain:

Beth yw’r Rhaglen ESCAPE-pain ar gyfer Osteoarthritis y Pen-glin a’r Glun?

  • Mae’r rhaglen yn 6 wythnos o hyd
  • Byddwch yn mynychu 2 ddosbarth bob wythnos (cyfanswm o 12 dosbarth)
  • Trafodaeth grŵp 15-20 munud ar bwnc penodol sy’n ymwneud â phoen yn y cymalau
  • 30-40 munud o wahanol ymarferion a gynlluniwyd i wella eich symudiad a’ch gweithrediad.
  • Gofynnir i chi lenwi holiadur cyn ac ar ôl i chi gymryd rhan yn y rhaglen. Byddwch yn cael eich canlyniadau unigol eich hun, a fydd yn ddefnyddiol i weld faint o gynnydd rydych wedi’i wneud.

Ble allai fynychu ESCAPE-pain ar gyfer osteoarthritis y glun neu’r pen-glin?

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnig Rhaglen ESCAPE-pain ar gyfer osteoarthritis y glun neu’r pen-glin yn y lleoliadau canlynol:

Canolfan Hamdden y Dwyrain CF3 4DN

  • Dydd Llun a Dydd Mercher

Canolfan Hamdden y Gorllewin CF5 5HJ

  • Dydd Mawrth a Dydd Iau 

Canolfan Hamdden Y Tyllgoed CF5 3LL

  • Dydd Mawrth a Dydd Iau 

Canolfan Hamdden y Barri CF63 4JJ

  • Dydd Mawrth a Dydd Gwener

Canolfan Maendy CF14 3AJ

  • Dydd Mercher a Dydd Gwener

Canolfan Hamdden Penarth CF64 2NS

  • Dydd Llun a Dydd Mercher 

Canolfan Pentwyn CF23 7EZ

  • Dydd Llun a Dydd Mercher

Canolfan Hamdden y Bont-faen CF71 7DA

  • Dydd Mawrth a Dydd Iau

Sut ydw i’n cyfeirio fy hun?

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn unrhyw un o’r rhaglenni uchod, llenwch y ffurflen gyfeirio isod.

Bydd ffisiotherapydd yn cysylltu â chi dros y ffôn i gadarnhau eich addasrwydd ar gyfer y rhaglen, ac i archebu eich lle arni.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.