Mae Arthritis Rhiwmatoid (RA) yn gyflwr awtoimiwnedd, sy’n golygu bod system imiwnedd y corff yn ymosod ar feinwe iach. Mae hyn fel arfer yn effeithio ar y cymalau, y cyhyrau, y gewynnau a meinwe feddal. Mae’n gyflwr llidiol sy’n cael ei nodweddu gan boen, chwyddo a gwendid. Gall effeithio ar unrhyw ran o’r corff, ond fel arfer mae’n dechrau yng nghymalau bach y dwylo a/neu’r traed. Mae Arthritis Rhiwmatoid yn aml yn effeithio ar ddwy ochr y corff yn yr un ffordd, ond nid yw hyn bob amser yn wir.
Os byddwch yn sylwi ar chwyddo a phoen yn eich cymalau sy’n teimlo’n gynnes wrth i chi ei gyffwrdd, dylech gysylltu â’ch Meddyg Teulu, a all eich cyfeirio at Riwmatolegydd. Mae ymyrraeth gynnar yn allweddol i driniaeth lwyddiannus, felly peidiwch ag oedi cyn ceisio cymorth.
Os yw eich Meddyg Teulu wedi’ch cyfeirio at Riwmatolegydd Ymgynghorol bydd yn cynnal ymchwiliadau trylwyr er mwyn penderfynu a oes gennych Arthritis Rhiwmatoid a pha driniaeth sydd ei hangen arnoch. Efallai y cewch eich cyfeirio at wasanaethau eraill, megis:
Dewch o hyd i ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal o amgylch Caerdydd a’r Fro a all eich helpu i fyw bywyd iachach a gwella’ch lles.
Os ydych yn meddwl bod angen i chi weld Rhiwmatolegydd, gwnewch apwyntiad gyda’ch Meddyg Teulu a gofynnwch am gael eich cyfeirio.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.