Ap Adferiad COVID

Mae grŵp iechyd anadlol GIG Cymru wedi datblygu ap Adferiad COVID ar ran Llywodraeth Cymru fel rhan o’r cymorth ehangach sydd ar gael i bobl sy’n dioddef o effeithiau tymor hwy COVID-19.  

Gyda mwy na 100 o fideos a dolenni llawn cyngor, gall defnyddwyr yr ap gofnodi eu symptomau, gweld cynnydd a dysgu sut i reoli eu cyflwr gartref gyda chymorth. Mae’n cynnwys cyngor gan therapyddion, seicolegwyr, deietegwyr ac ymgynghorwyr. 

Cafodd yr ap ei ddatblygu fel rhan o’n gwasanaethau cymorth ehangach i bobl sy’n profi effeithiau tymor hwy coronafeirws. Mae’n cynnig offeryn pwrpasol a hyfforddwr personol sy’n eich helpu ar y daith i wella, gan roi llwybr adferiad clir i chi. 

Lawrlwythwch yr ap adferiad COVID 

Maer ap Adferiad COVID ar gael i bawb yma:  

Ffoniwch 999 os ydych chi’n profi unrhyw symptomau sy’n bygwth bywyd neu cysylltwch â’r Gwasanaeth coronafeirws ar-lein 111 neu eich meddyg teulu os ydych chi’n teimlo nad yw eich symptomau’n gwella neu os byddwch angen cyngor pellach. 

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.