Gall cwympo gael effaith fawr ar fywydau unigolion, yn gorfforol ac yn feddyliol. Gall arwain at deimlo’n unig ac ynysig, ac at roi’r gorau i wneud y pethau roeddech chi’n arfer eu mwynhau.
Fodd bynnag, nid yw cwympo yn rhan anochel o heneiddio, ac mae llawer iawn o dystiolaeth ynghylch y ffyrdd y gellir lleihau’r risg o gwympo a chadw’r risg honno yn isel.
Mae cadw’n iach, bod yn actif a gofalu am ein lles meddyliol i gyd yn bwysig wrth i ni heneiddio a bydd yn cael effaith llawer ehangach na lleihau’r risg o gwympo yn unig. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffyrdd iach o fyw mewn mannau eraill ar y wefan hon.
Mae angen i’r holl ddarnau fod yn eu lle ac yn gweithio’n dda gyda’i gilydd i leihau eich siawns o gwympo.
Oeddech chi’n gwybod bod nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud i leihau’r risg o gwympo?
Cliciwch ar y darnau jig-so am wybodaeth ac enghreifftiau o sut y gallwch aros yn gadarn a lleihau eich risg.

Mae rhai meddyginiaethau, neu gyfuniadau o feddyginiaethau, yn achosi sgil-effeithiau a all wneud i chi deimlo’n benysgafn neu’n flinedig. Gall hyn effeithio ar gydbwysedd ac arwain at risg uwch o gwympo. Po fwyaf o feddyginiaeth rydych chi’n ei chymryd yr uchaf yw’r risg.
Mae’n bwysig cymryd meddyginiaethau fel y rhagnodir, cadw at y dos rhagnodedig ac unrhyw gyfarwyddiadau penodol fel pryd a sut i’w cymryd, megis ar stumog wag neu gyda bwyd.
Os ydych chi’n profi unrhyw sgil-effeithiau, siaradwch â’ch meddyg teulu neu’ch fferyllydd cymunedol lleol.
Mae adolygiadau meddyginiaeth rheolaidd yn bwysig os ydych chi’n cymryd meddyginiaethau presgripsiwn yn rheolaidd neu’n cymryd meddyginiaeth ar gyfer salwch hirdymor. Argymhellir eich bod yn cael adolygiad unwaith y flwyddyn gyda’ch meddyg teulu.
Ar gyfer rhai afiechydon a chyflyrau efallai y bydd dewisiadau eraill yn lle meddyginiaeth a ragnodwyd, triniaethau nad ydynt yn cynnwys cymryd tabledi neu feddyginiaeth.


Mae ein traed yn chwarae rhan hanfodol i’n cadw i symud a chynnal ein cydbwysedd. Mae’n bwysig eu cadw’n iach fel y gallant barhau i’n cadw’n heini ac yn sefydlog trwy gydol ein bywydau. Gall problemau gyda’ch traed achosi poen a newid y ffordd rydych chi’n cerdded. Mae rhai problemau traed cyffredin sy’n gallu achosi poen ac anghysur yn cynnwys bynions, ewinedd yn tyfu i’r byw, ewinedd wedi gordyfu a caledennau.
Os nad ydych yn symudol mae’n bwysig gofalu am eich traed o hyd.
Awgrym da: Dilynwch y ddolen hon i gael awgrymiadau defnyddiol ar sut i ofalu am eich traed
Os na allwch reoli problemau traed eich hun gartref gall podiatregydd helpu (meddyg sy’n arbenigo mewn fferau, traed a bysedd y traed). Gall eich meddyg teulu eich cyfeirio at bodiatrydd y GIG. Fel arall, gallwch weld Podiatregydd Preifat (gwnewch yn siŵr bod eich podiatregydd wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal a chwiliwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei enw).


Mae’n bwysig gwisgo esgidiau a sliperi sy’n ffitio’n dda i leihau’r risg o faglu neu lithro.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: Esgidiau


Pan fyddwch chi’n sâl gall olygu eich bod chi’n symud llai a all olygu bod eich cyhyrau’n mynd yn wannach a gall gynyddu’ch risg o gwympo.
Mae salwch a heintiau yn gallu achosi dryswch, blinder a gwneud i chi deimlo’n benysgafn. Er enghraifft, os oes gennych haint yn y glust, gall hyn effeithio ar eich cydbwysedd. Gall cael haint, fel haint ar y bledren, gynyddu eich risg o gwympo gan fod angen i chi godi a mynd i’r toiled yn amlach.
Gall cyflyrau sy’n cyfyngu ar eich egni hefyd gynyddu’r risg o gwympo.
Os ydych chi’n teimlo’n sâl, cymerwch ofal ychwanegol a gwnewch apwyntiad gyda’ch meddyg teulu.


Gall gwella a chynnal eich cryfder a’ch cydbwysedd helpu i leihau’r risg o gwympo, ac nid yw byth yn rhy hwyr i ddechrau! Mae canllawiau gweithgarwch corfforol y llywodraeth yn argymell y dylech wneud ymarferion cryfder a chydbwysedd o leiaf dau ddiwrnod yr wythnos. Hefyd, os ydych yn cwympo, gall gwella eich cryfder a’ch cydbwysedd wneud gwahaniaeth i’ch gwytnwch a’ch adferiad.
Gallwch ddod o hyd i rai ymarferion i’w gwneud gartref trwy glicio ar y ddolen hon. Datblygodd Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion yr animeiddiad byr hwn, gan dynnu sylw at 6 ymarfer cryfder a chydbwysedd, a all helpu i leihau’r risg o gwympo os cânt eu gwneud yn aml.
Ar draws Caerdydd a’r Fro mae yna ddosbarthiadau cymunedol sy’n cynnig ymarferion a gweithgareddau sy’n gwella cryfder a chydbwysedd a symudedd cyffredinol. Mae llawer ohonynt wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer pobl 60 oed a throsodd.

Gall cymhorthion cerdded fel ffyn cerdded a fframiau helpu i wella symudedd a hyder gan ein helpu i fod yn fwy actif ac annibynnol. Os ydych chi’n teimlo bod newid wedi bod i’ch symudedd siaradwch â’ch meddyg teulu a fydd yn gallu eich atgyfeirio am asesiad ffisiotherapi.
Os oes gennych gymorth cerdded mae’n hanfodol ei ddefnyddio’n gywir. Er enghraifft, mae angen i gymorth cerdded fod yr uchder cywir, ac ar yr un lefel â phlyg eich arddwrn pan fyddwch chi’n dal eich braich wrth eich ochr. Mae’n bwysig gwirio’r darnau rwber ar y pen, o’r enw ferrules, a gosod rhai newydd os yw’r gafael wedi gwisgo.
Gall offer ac addasiadau o amgylch y tŷ fel rheiliau dwylo, codwyr cadeiriau a seddi cawod hefyd helpu i aros yn gadarn gartref a lleihau’r risg o gwympo. Os ydych yn cael trafferth gwneud gweithgareddau o ddydd i ddydd, siaradwch â’ch meddyg teulu a all eich atgyfeirio at asesiad gyda Therapydd Galwedigaethol.
Os ydych yn byw yng Nghaerdydd gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Byw’n Annibynnol a all eich helpu i gael gafael ar offer a chymorth i’ch helpu i fyw mor annibynnol â phosibl.
Gall Gofal ac Atgyweirio Caerdydd a’r Fro hefyd helpu gydag addasiadau i’r cartref i helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol.

Mae gwybyddiaeth yn cyfeirio at y prosesau sy’n digwydd yn yr ymennydd fel meddwl, dysgu, canfyddiad, dealltwriaeth ac iaith. Gall dementia a cholled gwybyddol gynyddu’r risg o gwympo oherwydd gall symptomau gynnwys:
Problemau gyda symudedd, cydbwysedd a gwendid yn y cyhyrau
Newidiadau synhwyraidd
Anhawster gyda’r cof a dod o hyd i’ch ffordd o gwmpas
Syrthni, pendro neu bwysedd gwaed is o ganlyniad i gymryd meddyginiaeth
Ei chael hi’n anodd cyfleu pryderon, anghenion neu deimladau
Er mwyn ceisio cadw risgiau mor isel â phosibl, mae’n bwysig bod pobl sy’n byw gyda dementia yn parhau i fod yn actif yn gorfforol. Mae amgylchedd diogel hefyd yn bwysig a gall pethau fel goleuadau da, arwyddion a lliwiau gwahanol helpu. Mae hefyd yn syniad da cael archwiliadau meddyginiaeth a phrofion golwg rheolaidd.


Gall bwyta deiet cytbwys iach gyda bwydydd sydd â digon o egni, protein a maetholion fel calsiwm helpu i wella’ch esgyrn a chryfder eich cyhyrau. Mae yfed digon o hylifau i hydradu yr un mor bwysig â’r hyn rydych chi’n ei fwyta. Bydd deiet maethlon ac yfed digon o hylif yn lleihau eich risg o golli cyhyrau a bregusrwydd a all helpu i atal cwympiadau.
Awgrym da: Yfwch ddigon o ddŵr. Os nad ydych chi’n yfed digon, efallai y cewch eich dadhydradu a all wneud i chi deimlo’n benysgafn. Bydd hyn yn cynyddu eich risg o gwympo.
Os ydych wedi colli chwant bwyd, yn teimlo’n wannach neu’n llai abl i wneud eich gweithgareddau arferol, cliciwch yma i ddarganfod mwy am fwyta deiet maethlon a’ch risg maethol.
I gael gwybodaeth am sut y gallwch:


Rheswm cyffredin dros gwympo yw pobl yn codi o’r gwely ac yn sefyll i fyny yn rhy gyflym, sy’n golygu bod eich pwysedd gwaed yn gostwng yn gyflym, gan wneud i chi deimlo’n benysgafn, a all arwain at gwymp. Er mwyn osgoi hyn, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n codi’n araf, pan fyddwch chi’n rhoi eich coesau dros ochr y gwely, ceisiwch oedi cyn codi.
Os sylwch ar symptomau fel teimlo’n benysgafn, pendro, golwg aneglur pan fyddwch yn sefyll i fyny neu’n newid eich osgo yn sydyn, gallai olygu bod gennych bwysedd gwaed isel. Ewch at eich meddyg teulu i gael archwiliad.


Gall poen newid y patrwm neu’r ffordd rydyn ni’n cerdded, a all gynyddu’r risg o gwympo. Bydd traed poenus, er enghraifft, yn newid sut rydym fel arfer yn cerdded gan effeithio ar gydbwysedd. Gall bod mewn poen hefyd ein hatal rhag symud o gwmpas a bod yn actif. Pan fyddwn yn rhoi’r gorau i fod yn actif, gall hyn arwain at wanhau ein cyhyrau gan gynyddu’r risg o gwympo.
Mae gwahanol fathau o boen ar wahân i boen sy’n effeithio ar ein cymalau, ein hesgyrn a’n cyhyrau. Gall poen effeithio ar y ffordd rydych chi’n symud a sut rydych chi’n ymateb oherwydd efallai na fyddwch mor effro i risgiau cwympo.
Mae’n bwysig nodi achos unrhyw boen fel y gellir ei drin neu ei reoli.

Wrth i ni heneiddio, mae ein cyrff yn ei chael hi’n anoddach prosesu alcohol. Mae hyn yn ein gwneud yn fwy sensitif i effeithiau yfed a all achosi mwy o risg o gwympo. Gall yfed gormod o alcohol arafu ein hymatebion, effeithio ar gydsymud a’n gwneud yn ansefydlog ar ein traed, yn enwedig os ydym yn cymryd rhai meddyginiaethau neu’n byw gyda chyflyrau iechyd.
Gall peidio ag yfed alcohol neu leihau’r swm a yfwn leihau’r risg o gwympo. Mae’r canllawiau i gadw risgiau iechyd yn isel yn argymell peidio ag yfed mwy na 14 uned mewn wythnos (ar gyfer dynion a menywod). Ceisiwch wasgaru’r alcohol a yfwch dros 3 diwrnod neu fwy, a pheidiwch ag yfed gormod ar unrhyw un diwrnod.


Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cwympo yn y cartref, a bydd peryglon fel rygiau, gwifrau sy’n llusgo ar hyd y llawr, eitemau sy’n cael eu storio ar y grisiau neu loriau llithrig yn gallu achosi pobl i faglu a llithro. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared â chymaint o beryglon â phosibl sy’n gallu achosi i chi lithro, sicrhewch nad oes annibendod ar y grisiau, a gwnewch yn siŵr nad oes gan rygiau ochrau sydd wedi codi.
Os oes angen i chi fynd i’r toiled yn y nos ond nad ydych am droi’r goleuadau ymlaen, sicrhewch bod gennych oleuadau nos wedi’u plygio i socedi’r wal i oleuo’ch ffordd. Gall goleuadau aildrydanadwy fod yn opsiwn defnyddiol i helpu i wella eich golwg yn y nos a lleihau eich biliau ynni.
Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’ch amgylchoedd ac i gymryd eich amser. Gall storio pethau allan o’ch cyrraedd neu i fyny’n uchel gynyddu eich risg o gwympo.
Os hoffech gael cyngor ar wneud eich cartref yn fwy diogel drwy wella goleuadau neu osod cymhorthion fel rheiliau cydio, mae gwasanaethau a all helpu.
Mae gwasanaethau teleofal yn defnyddio technoleg a dyfeisiau a all eich helpu i gadw’n ddiogel gartref. Mae larymau personol a systemau monitro yn gadael i chi alw am help os ydych wedi cwympo.
Yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg mae gwasanaethau Teleofal yn cael eu darparu gan yr Awdurdod Lleol:

Gall anymataliaeth wrinol, pan fydd person yn gollwng wrin (pi pi) trwy ddamwain, gyfrannu at gwympiadau damweiniol mewn sawl ffordd. Mae anymataliaeth a chwympiadau damweiniol yn gysylltiedig:
Gall Gwasanaeth y Bledren a’r Coluddyn y Bwrdd Iechyd eich helpu i reoli eich symptomau a byw’n dda gydag anymataliaeth. Os ydych chi’n glaf newydd, ffoniwch yr HYB ar 029 20444501. Ar gyfer ailasesiadau (cleifion sy’n hysbys i’r tîm) cysylltwch â 029 21841590.
Mae ein synhwyrau yn ein galluogi i wneud synnwyr o’n hamgylchoedd. Mae golwg gwael a methu â gweld peryglon sy’n gallu gwneud i chi fasglu yn cynyddu’r tebygolrwydd o gwympo. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael profion golwg rheolaidd a bod eich presgripsiwn sbectol yn gyfredol.
Dewch o hyd i’ch Optegydd lleol
Byddech fel arfer yn mynd at eich optometrydd os oes gennych broblemau ag iechyd eich llygaid fel anafiadau, poen, chwyddo, colli golwg neu amharu ar y golwg.Gallwch ddod o hyd i’ch optegydd agosaf drwy ddefnyddio ein Cyfeiriadur Gwasanaethau Iechyd lleol.
Gall problemau clyw effeithio ar eich cydbwysedd a’ch ymwybyddiaeth o beryglon yn eich amgylchedd, gan ei gwneud yn fwy tebygol y byddwch yn baglu a chwympo. Os ydych wedi sylwi ar newid yn eich clyw, siaradwch â’ch meddyg teulu. Caiff profion clyw eu cynnig hefyd gan lawer o optegwyr.
Gall newidiadau mewn teimlad, er enghraifft y teimlad yn eich traed, hefyd gynyddu eich risg o gwympo.

Mae cysylltiad cryf rhwng ymarfer corff a lleihau’r risg o gwympo. Mae FaME yn rhaglen ymarfer corff y dangosir ei bod yn gwella cryfder, cydbwysedd a sefydlogrwydd. Fe’i cyflwynir gan hyfforddwyr ymarfer corff cymwysedig arbenigol mewn grwpiau bach, ac mae’r dosbarthiadau wedi’u teilwra i alluoedd unigolion.
Mae’r rhaglen yn rhedeg unwaith yr wythnos am 24 wythnos, ac mae unigolion yn symud ymlaen yn ystod y rhaglen i ddatblygu eu cryfder, bod â mwy o hyder a theimlo’n fwy sefydlog ar eu traed. Cyflwynir rhaglenni FaME mewn lleoliadau cymunedol, ac maent yn ffordd wych o gymdeithasu ag eraill mewn grŵp bach.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.