Cefnogi’ch plentyn i ddefnyddio cyllell a fforc

Mae dysgu defnyddio cyllell a fforc yn gallu bod yn anodd i blentyn neu berson ifanc. Mae ein Therapyddion Galwedigaethol wedi llunio’r wybodaeth hon i’ch helpu i gefnogi eich plentyn i ddefnyddio cyllell a fforc yn annibynnol.

Young child eating cereal with a spoon

Pa sgiliau sydd eu hangen ar fy mhlentyn i ddefnyddio cyllell a fforc?

Sut alla i helpu fy mhlentyn i ddatblygu sgiliau cyllell a fforc?

  • Ceisio gafael mewn llwy wrth gael ei fwydo
  • Dal llwy yn dda a cheisio dod â hi at y geg ond yn flêr
  • Yfed yn dda o gwpan heb lawer o help
  • Dal llwy a llwyddo i roi bwyd yn y geg
  • Bwyta’n fedrus gyda llwy ac efallai yn gallu defnyddio fforc
  • Bwyta gyda fforc a llwy yn dda
  • Taenu menyn ar fara gyda chyllell
  • Defnyddio cyllell a fforc yn fedrus

Mae’r gweithgareddau canlynol yn defnyddio rhai o’r sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer defnyddio cyllell a fforc. Byddant yn rhoi cyfle i’ch plentyn ymarfer y sgiliau ar wahân i amser bwyd.

  • Defnyddio rhaw lwch a brwsh – ceisiwch annog y plentyn i ddal y rhaw lwch yn llonydd a symud y brwsh. Efallai bydd eich plentyn yn gallu cael ei demtio i symud y ddau gyda’i gilydd ar yr un pryd 
  • Defnyddio siswrn – dechrau gyda siapiau hawdd a datblygu i rai mwy anodd 
  • Chwarae gyda thoes, clai neu ddeunydd modelu arall – ymarfer torri gan ddefnyddio cyllell a fforc
  • Coginio neu bobi – gadewch i’ch plentyn ddal y bowlen wrth gymysgu â llwy, neu adael iddo ddefnyddio llwy i gael cymysgedd o’r bowlen
  • Lliwio – cael y plentyn i ddal y papur ag un llaw wrth liwio gyda’r llaw arall 
  • Agor poteli a photiau
  • Gemau adeiladu – e.e. Meccano, Kid K’NEX

Pan fydd eich plentyn yn barod, ceisiwch ddefnyddio’r canllaw cam wrth gam hwn i ddysgu defnyddio cyllell a fforc

  • Er mwyn helpu’ch plentyn i ddysgu, dylech chi geisio cael gwared ar y pethau sy’n tynnu ei sylw (h.y. diffodd y teledu a dyfeisiau electronig eraill).
  • Wrth ddefnyddio cyllell a fforc, mae’n bwysig bod eich plentyn yn eistedd yn gyfforddus gyda’i gorff wedi’i gynnal yn dda. Mae hyn yn help iddo ganolbwyntio ar y dasg a chael mwy o reolaeth wrth ddefnyddio’i ddwylo.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn eistedd wrth y bwrdd ar uchder cyfforddus gyda’i draed yn wastad ar y llawr. Os nad yw ei draed yn cyrraedd y llawr rhowch focs neu stôl o dan ei draed.

Child pointing with index finger outstretchedDechreuwch drwy annog eich plentyn i bwyntio gan ddefnyddio ei fynegfys (y bys agosaf at y bawd).

Er mwyn helpu’ch plentyn i gofio pa fys yw hwn, gadewch i’ch plentyn enwi’r bys (gêm ‘Modryb y fawd, bys yr uwd, pen y gogr, Dic y piber a Sioni bach bach’ er enghraifft ).

Dylai mynegfys eich plentyn fod yn pwyntio ac yn gorffwys ar y gyllell a’r fforc er mwyn ei helpu i gael gwell rheolaeth ar y gyllell a’r fforc. Yn ddelfrydol, dylai ei law gryfaf neu’r llaw mae’n ei defnyddio ar gyfer ysgrifennu ddal y gyllell.

Yna rydym yn defnyddio ysgogiadau byr a chryno: “DAL, LLITHRO, LLIFIO” fel sydd yn y lluniau isod.

DAL eich bwyd gyda’r fforc.

LLITHRO eich cyllell ar hyd y fforc.

LLIFIO’r bwyd gyda’r gyllell. Ceisiwch annog llifio yn hytrach na dim ond pwyso ar y bwyd.

  • Ymarfer! Mae defnyddio cyllell a fforc yn sgil anodd ei dysgu a gall gymryd amser i’ch plentyn neu berson ifanc ei meistroli.
  • Rhowch gyfle i’ch plentyn ymarfer pan nad yw hi’n amser bwyd gan ddefnyddio toes i greu “bwyd” i’w dorri. Gall y plentyn chwarae rôl hefyd drwy esgus bwydo babi dol neu dedi. 
  • Mae’n haws dechrau gyda bwydydd meddal, cyn symud at fwydydd caled yn raddol. Efallai y byddwch chi am gefnogi’ch plentyn hefyd drwy ddefnyddio llaw dros ei law i’w arwain, neu gynorthwyo drwy ddal y fforc wrth iddo lifio gyda’r gyllell. 
  • Gwnewch yn siŵr fod y plentyn yn dal y gyllell a’r fforc yn gywir. Does dim rhaid i hyn fod yn berffaith ar y dechrau ond mae angen iddo fod yn effeithiol e.e. cyllell y ffordd gywir.
  • Byddwch yn barod am dorri anniben a rhywfaint o rwygo bwyd i ddechrau wrth i’ch plentyn ymarfer y sgil newydd hon. 
  • Ceisiwch annog eich plentyn i arafu a meddwl am bob cam o dorri’r bwyd (e.e. taro gyda’r fforc, llifio gyda’r gyllell…).
  • Wrth ddisgrifio’r weithdrefn, defnyddiwch cyn lleied o eiriau â phosibl er mwyn osgoi dryswch a siarad yn glir ac yn araf, er mwyn i’r plentyn brosesu’r wybodaeth ac addasu ei hun yn unol â hynny.

Ensure the plate does not slip, by using a tablecloth, non-slip mat, or sticky tack to stick the plate to the table. Moulded cutlery can be purchased which has built in grooves to help with the positioning of the hand. It may help putting Gwnewch yn siŵr nad yw’r plât yn llithro drwy ddefnyddio lliain bwrdd, mat rhag llithro, neu dâp gludiog i lynu’r plât ar y bwrdd. Gellir prynu cyllell a fforc gyda phantiau ynddyn nhw sy’n gymorth i osod y bysedd yn eu lle. Beth am roi sticeri neu farnais ewinedd ar yr offer yn gymorth gweledol i’ch plentyn gofio lleoliad y mynegfys ar y gyllell a’r fforc? 

Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos math ac ansawdd cynnyrch perthnasol. Nid ydym yn cymeradwyo unrhyw wneuthuriad penodol.

Cyllyll a ffyrc i BlanSpecially shaped cutlery for children with finger indents and profiled grips for accurate finger control. – gyda siâp pantiau bysedd arbennig er mwyn cael gwell rheolaeth.

Specially shaped adult cutlery with finger indents and profiled grips for accurate finger control.Cyllyll a ffyrc i Oedolio – gyda siâp pantiau bysedd cynnil er mwyn cael gwell rheolaeth.

Cyllyll a ffyrc plant bac – Wedi’u cynllunio’n arbennig i blant ifan

Non-slip mat

Mat gwrthlithro

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.