Sut alla i gefnogi fy mhlentyn i ddysgu sut i wisgo ei hun?

Mae gwisgo a dadwisgo eich hun yn rhan fawr o fywyd bob dydd, ond mae’n gallu bod yn anodd ac mae plant yn dysgu ar wahanol gyfraddau.

Mae plant yn dysgu orau pan fyddan nhw’n cael eu cymell ac mae’n bwysig bod yr ‘her gywir’ yn cael ei gosod ar bob cam wrth ddatblygu sgiliau. Mae hyn yn rhoi’r her ar lefel sy’n iawn iddyn nhw – heb fod yn rhy hawdd a ddim yn rhy anodd – gan sicrhau ymdeimlad o gyflawniad a llwyddiant.

Boy pulling on jeans, with dad looking on

Isod mae ein tîm o Therapyddion Galwedigaethol yn nodi gwybodaeth a strategaethau er mwyn eich helpu i gefnogi eich plentyn i ddysgu’r sgiliau hyn.

Camau dysgu sut i wisgo

Mae gwisgo yn sgil sy’n cael ei dysgu’n raddol ac fel arfer yn digwydd yn y drefn isod. Mae’n bwysig gwybod ar ba gam y gallai eich plentyn fod, gan ei fod, o bosibl, yn gwneud llawer, pob un, neu ychydig o’r sgiliau isod.

Yn cydweithredu wrth gael ei wisgo

Yn ymestyn braich neu goes i dderbyn llewys neu goes trowsus. Yn gallu tynnu esgidiau, sanau a het (ond nid yw’n gallu eu rhoi yn ôl)

Yn darganfod twll llawes a thynnu topiau sydd wedi’u hagor.

Yn helpu i wthio trowsus neu bants/trôns i lawr.
Yn gallu gwisgo het ac esgidiau.

Yn gallu gwisgo cotiau, cardiganau a thopiau gyda botymau ar y tu blaen.

Angen rhywfaint o gymorth i wisgo topiau a’u tynnu. Yn gallu gwthio dillad i lawr a’u tynnu. Yn ceisio gwisgo sanau. Yn gallu cau botymau mawr ac agor sip caeedig i fyny.

Yn gallu gwisgo a dadwisgo’n annibynnol ond bydd angen help gyda ffasninau efallai.

Efallai bydd dillad tu ôl ymlaen neu ar y droed anghywir.
Efallai bydd yn dechrau clymu lasys/careiau.

Mae gwybod pa gam mae eich plentyn wedi’i gyflawni yn gallu eich helpu chi i osod y targedau cywir er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn llwyddo, gan ei annog ac yn bwysicaf oll ei gymell i gymryd rhan wrth wisgo.

Sut alla i helpu fy mhlentyn i fynd o un cyfnod gwisgo i’r un nesaf?

Cyn i blant allu dysgu dadwisgo/gwisgo eu hunain, mae yna sgiliau cyn-gwisgo sydd angen eu dysgu.

  • Mae chwarae yn bwysig iawn wrth helpu plant i ddysgu’r sgiliau hyn.
  • Wrth wisgo, bydd eich plentyn angen digon o nerth yn ei ddwylo er mwyn gallu gafael yn y dillad a’u symud, a gafael mewn ffasinau.
  • Mae plant angen deall yn iawn hefyd sut mae’r corff yn gweithio a sut mae’n symud.

Edrychwch ar y syniadau isod ar sut i helpu eich plentyn i ddatblygu’r sgiliau hyn:

Little girl sat on floor pulling on trousers
  • Defnyddio byrddau botwm, ciwbiau chwarae, botymau defnydd neu lyfrau gyda ffasinau.
  • Dod o hyd i dy gynffon – rhoi cynffon esgus i mewn yn nilledyn y plentyn er mwyn iddo geisio’i ganfod a’i dynnu.
  • Gemau postio a gwnïo.
  • Lapio parsel. Gwneud parseli a’u clymu gyda gwahanol fathau o linynnau a rhubanau.
  • Chwarae gyda chylch hwla, camu i mewn ac allan, ei dynnu i fyny ac i lawr, ei godi dros y pen.
  • Gemau magnetig a thynnu teganau ar wahân e.e. Lego
  • Chwarae ‘Mae Seimon yn dweud’ a gemau sy’n enwi rhannau o’r corff. 
  • Caneuon symud fel ‘Pen, ysgwyddau, coesau, traed’ ac ‘Mae olwynion y bws’.
  • Chwarae cuddio.
  • Gêm paru sanau. Rhoi amrywiaeth o sanau mewn pentwr ac mae’n rhaid i’r plentyn ddod o hyd i barau a’u gwisgo.
  • Gwisgo gwisg ffansi a chwarae gemau smalio. 
  • Gwisgo a dadwisgo doliau a thedis.
  • Gwisgo cerddorol (amrywiad ar gadeiriau cerddorol) – Y plant i wisgo eitemau o ddillad oddi ar bentwr o ddillad nes bod y gerddoriaeth yn stopio. Ar ddiwedd y gêm bydd y plentyn sy’n gwisgo’r rhan fwyaf o’r dillad yn ennill.
  • Treuliwch amser yn paratoi popeth sydd ei angen cyn dechrau. Bydd rhoi pethau yn y drefn gywir yn helpu. Bydd angen helpu plant i wneud hyn i ddechrau.
  • Rhowch luniau ar ddroriau a chypyrddau i helpu eich plentyn i ddod o hyd i bethau.
  • Mae hi’n haws gwisgo wrth eistedd felly defnyddiwch gadair neu eisteddwch ar y llawr gan bwyso yn erbyn y wal neu ar wely. Rydyn ni’n cynghori bod y traed, y cluniau a’r ffêr ar ongl o 90 gradd os ydych chi’n eistedd i wisgo.
  • Mae angen i blant allu canolbwyntio ar wisgo. Felly, lle bo’n bosib, gwnewch yn siŵr bod y teledu wedi’i ddiffodd, teganau’n wedi’u cadw a bod digon o le ganddyn nhw.
  • Wrth ddysgu gwisgo mae’n help gallu ei wneud yn yr un ffordd ac yn yr un lle bob tro. Dewis le preifat lle mae’r plentyn yn teimlo’n gyfforddus.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gallu edrych arno’i hun mewn drych mawr er mwyn iddo allu gweld sut mae’n edrych wrth wisgo.
  • Dechreuwch ddysgu plant i wisgo a dadwisgo’n ifanc er mwyn sefydlu trefn gan fod hyn yn helpu i fagu hyder.
  • Eisteddwch wrth ymyl, o flaen, neu’n union y tu ôl i’r plentyn gan newid eich safle yn ôl yr angen. 
  • Defnyddiwch yr un dechneg bob tro a sefydlu trefn. Siaradwch am yr hyn rydych chi’n ei wneud er mwyn atgyfnerthu’r weithred. Defnyddiwch iaith syml, glir.
  • Rhowch amser i’r plentyn ddechrau rhagweld y cam nesaf. Gadewch iddo fentro pan mae’n gallu.
  • Sefydlwch lefel ddatblygiadol y plentyn ac yna dysgu’r cam nesaf. 
  • Cofiwch fod dadwisgo yn cael ei ddysgu cyn gwisgo.
  • Rhowch amser i’ch plentyn ymateb.
  • Mae penwythnosau a gwyliau ysgol yn adegau da i weithio ar sgiliau gwisgo pan fydd llai o bwysau amser nag yn ystod yr wythnos.
  • Meistroli un broses neu ddilledyn ar y tro yw’r gorau.
  • Rhowch lai o gymorth wrth i hyder y plentyn gynyddu.
  • Mae dangos cefn a blaen y dilledyn yn glir yn gallu helpu’r plentyn i weld y gwahaniaeth.
  • Weithiau gall rhoi marc lliw llachar ar y twll llawes y tu mewn i gôt neu grys helpu’r plentyn i adnabod chwith a de.
  • Os ydy’ch plentyn yn cael trafferth i wisgo dillad y ffordd iawn, chwiliwch am label ar y cefn neu lun ar y tu blaen.
  • Beth am sanau gyda lliw sodlau a bysedd traed gwahanol, un maint yn fwy – byddan nhw’n llawer haws eu gwisgo!
  • Cofiwch ganmol pob ymdrech, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n llwyddiannus bob tro.

Strategaethau ac Awgrymiadau

  • Prynwch dopiau sy’n fwy o faint na’r rhai mae’r plentyn yn eu gwisgo fel arfer. Byddant yn fwy llac ac yn haws eu gwisgo/dadwisgo.
  • Chwiliwch am grysau gyda thwll gwddf hawdd ei wisgo, gwddf ‘cwch’, gwddf croesiad llorweddol neu wddf V.
  • Rhowch faneg am law’r plentyn er mwyn i’r bysedd beidio cael eu dal wrth iddyn nhw fynd drwy’r llawes.
  • Er mwyn i’r plentyn allu gwahaniaethu rhwng cefn a blaen, rhowch label lliw neu ddarn o ddefnydd ar y dilledyn.
  • Atgyfnerthwch fotymau llawes gydag edau elastig fel y gall y botwm aros yn sownd tra bod y llawes yn cael ei thynnu/gwisgo.
  • Mae’n haws gafael mewn botymau gwastad (yn hytrach na rhai crwn), mawr, gyda gwead neu wedi’u gwnïo ychydig yn uwch nag arwyneb y dilledyn. Gwnewch yn siŵr fod pob twll botwm yn ddigon mawr i glymu’r botwm.
  • Mae siorts, dillad nofio a throwsus pyjamas yn aml yn haws i’w gwisgo na throwsus hir.
  • Dechreuwch gyda throwsus gyda gwasg elastig cyn symud at drowsus gyda ffasinau.
  • Gwnïwch ddolenni y tu mewn i fand gwasg trowsusau er mwyn helpu eich plentyn i allu tynnu’r dilledyn (os nad oes dolenni gwregys eisoes ar y trowsus).

Mae defnyddio techneg cadwyno’n ôl yn gallu bod yn ddefnyddiol wrth ddysgu sgiliau gwisgo i’ch plentyn gan ei bod yn annog annibyniaeth yn raddol heb lethu’ch plentyn. Isod gwelir enghraifft o sut i dorri tasg yn gamau bach. Ar ôl meistroli un cam, symud ymlaen i’r cam nesaf – bydd hyn yn helpu i wneud y dasg yn gyraeddadwy i’ch plentyn.

Tynnu Sanau

  • Gofynnwch i’r plentyn dynnu hosan o’r bysedd traed yn unig (ar ôl i chi dynnu gweddill yr hosan).
  • Gofynnwch i’r plentyn dynnu hosan o ychydig islaw’r sawdl/canol y bwa (ar ôl i chi dynnu gweddill yr hosan).
  • Gofynnwch i’r plentyn dynnu hosan o ychydig uwch na’r sawdl (ar ôl i chi dynnu gweddill yr hosan).
  • Gofynnwch i’r plentyn dynnu hosan gyfan.
  • Wrth roi cyfarwyddiadau i’ch plentyn, defnyddiwch frawddegau syml, byr fel “hosan i lawr” neu “hosan i fyny” ac ailadrodd yr un frawddeg bob tro y mae’r plentyn yn gwneud y dasg honno.

Unwaith y bydd eich plentyn wedi dechrau meistroli sut i wisgo, mae’n syniad da cyflwyno sut i gau ffasinau. Dyma gyngor cyffredinol ar sut i gefnogi hyn.

  • Dechreuwch ymarfer ar fotymau mawr a thyllau botymau llac yn gyntaf, cyn rhoi cynnig ar fotymau llai.
  • Dechreuwch gyda botymau y gall y plentyn eu gweld – gadewch fotymau trowsus tan y diwedd.
  • Gofynnwch i’ch plentyn eistedd neu sefyll mewn safle sefydlog.
  • Gofynnwch i’ch plentyn ddal y botwm gyda’i fys a’i fawd, tra bod y llaw arall yn dal y twll botwm.
  • Gofynnwch i’ch plentyn ddefnyddio un llaw i wthio’r twll dros y botwm a’r llaw arall i wthio’r botwm drwy’r twll.
  • Gall y llaw oedd yn gwthio’r botwm dynnu’r botwm wedyn.
  • Gofynnwch i’ch plentyn ddal i dynnu o’r ddwy ochr nes bod y botwm yn ymddangos drwy’r twll.
  • Os yw eich plentyn yn cael trafferth, rhowch gymorth llaw dros law yn ogystal â chyfarwyddiadau geiriol i gau botymau (a sipiau).
  • Bydd defnyddio cliwiau geiriol fel “pinsio, tynnu, postio” yn ysgogi’ch plentyn i gofio’r camau sydd eu hangen i feistroli cau botymau.

Cyngor: Er mwyn helpu’ch plentyn i ddod o hyd i’r botwm a’r twll cywir, rhowch edau gwahanol liw arnyn nhw.

  • Dechreuwch gyda sipiau ‘pen caeedig’, gan annog eich plentyn i ddefnyddio dwy law.
  • Dechreuwch gyda sipiau mawr yn gyntaf.
  • Gofynnwch i’ch plentyn eistedd neu sefyll mewn safle sefydlog.
  • Gofynnwch i’ch plentyn dynnu’r sip i lawr i waelod y dilledyn.
  • Gofynnwch i’ch plentyn ddod â dwy ochr y dilledyn at ei gilydd.
  • Gofynnwch i’ch plentyn ddal tafod y sip gydag un llaw a rhoi ochr arall y sip i mewn i’r hafn, gan wneud yn siŵr ei fod yn cael ei osod yn gadarn.
  • Gofynnwch i’ch plentyn ddal gwaelod y dilledyn gydag un llaw a thynnu’r tafod i fyny i ben y dilledyn.

Cyngor: Ehangu’r tag sip gan ddefnyddio clip papur neu gylch allweddol i’w gwneud hi’n haws ei ddal.

Fideos defnyddiol

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.