Paratoi i symud i’r ysgol uwchradd

Mae ein tîm o Therapyddion Galwedigaethol wedi llunio ychydig o awgrymiadau a syniadau a fydd yn dy helpu i baratoi i symud i’r ysgol uwchradd.

Mae symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd yn amser cyffrous iawn. Mae’n gallu bod yn newid mawr hefyd. Dyma rai pethau y gallet ti eu gwneud er mwyn sicrhau bod y symud ychydig yn haws ac mynd yn fwy llyfn.

Young high school student (girl) in uniform with a backpack.
  • Dewisa le arbennig i ti gadw dy bethau ysgol, er mwyn i ti allu dod o hyd iddyn nhw yn hawdd.
  • Ceisia fynd i’r arfer o bacio dy fag ysgol y noson cynt. Mae gwneud nodyn o’r hyn sydd ei angen arnat ti yn gallu bod yn ddefnyddiol er mwyn gallu gwirio dy restr bob nos.
  • Gwna dy wisg ysgol yn barod y noson cynt. Bydd hyn yn help i ti allu cael dy hun yn barod yn gyflym yn y bore.
  • Gwna’n siŵr fod popeth yn daclus ac yn barod i fynd, a bod popeth sydd ei angen wrth law.
  • Os wyt ti’n cael trafferth gwisgo dy ddillad (cau botymau, esgidiau ac ati), edrycha ar ein cyngor wrth wisgo neu ein cyngor ar sgiliau echddygol manwl.
  • Gwna’n siŵr fod dy wisg ysgol wedi ei throi y ffordd gywir ac yn barod i ti ei gwisgo ’nôl ar ddiwedd dy wers ymarfer corff.
  • Os nad oes gen ti lawer o amser i newid ar ôl y wers ymarfer corff, ceisia ddim ond agor botymau uchaf dy grys ysgol. Wedyn, galli di ei dynnu dros dy ben a bydd llai o fotymau i’w cau.
  • Mae’n syniad da ymarfer y daith i’r ysgol ac i’r dosbarth.
  • Cadwa lygad am arwyddion, posteri neu luniau i dy helpu i gofio’r ffordd.
  • Astudia fap o’r ysgol a defnyddia god lliw ar gyfer yr ystafelloedd rwyt ti’n eu defnyddio.
  • Gwna’n siŵr dy fod di’n gwybod ble mae dy locer a bod yr allwedd yn ddiogel (os oes angen un arnat ti). Rho’r allwedd ar gylch allweddi fel ei bod hi’n haws dod o hyd iddo yn dy fag.
  • Gwna’n siŵr dy fod di’n gwybod ble mae’r toiledau. Os yw defnyddio’r toiled yn anodd, gwna’n siŵr fod dy athro yn gwybod y byddi di eisiau amser ychwanegol efallai.
  • Defnyddia god lliw ar gyfer dy amserlen a dy ffeiliau. Bydd hyn yn dy helpu i wybod beth sydd ei angen ar gyfer pob diwrnod neu defnyddia gylch allwedd gyda chod llun.
  • Defnyddia gas pensiliau rwyt ti’n gallu gweld trwyddo. Bydd hyn yn help i ddod o hyd i bethau ysgrifennu yn haws.
  • Os wyt ti’n cael trafferth gorffen dy waith cartref, gofynna i athro neu athrawes faint o amser y dylet ti ei dreulio yn gweithio gartref. Gofynna am help i flaenoriaethu dy lwyth gwaith.
  • Ceisia ymarfer cario hambwrdd bwyd poeth gyda dy fag ar dy gefn pan wyt ti gartref.
  • Os ydy defnyddio cyllell a fforc yn anodd, cer â phecyn bwyd yn lle cael cinio ysgol.
  • Gwna’n siŵr dy fod di’n gallu agor dy focs brechdanau ac unrhyw bacedi neu gartonau.
You got this
PPIT Gwasanaethau Plant Pobl Ifanc ac Iechyd Teuluol

Hefyd yn yr adran hon

Sut i gysylltu a ni

I wneud cais am gymorth, plis cysylltwch a ni ar 02921 836910. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ein proses Cais am Gymorth.

Llinell Gyngor
Gallwch ffonio ein llinell gyngor ar 029 2183 6888, bob dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 12pm a 2pm. Mae’r llinell ffôn yn caniatáu i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg gael mynediad uniongyrchol at gyngor a chymorth ynghylch helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu tasgau galwedigaethol bob dydd.

Manylion Cyswllt

Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc
Llawr 1af, Tŷ Coetir
Ffordd Maes y Coed
Caerdydd
CF14 4HH

Rhif Ffôn: 02921 836 910

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.