Bwriad y wybodaeth ar y dudalen hon yw eich helpu i ddeall lludded sy’n gysylltiedig â chanser a’ch cefnogi i wella eich lefelau egni.
Deall Lludded – Mae’n fwy na theimlo’n flinedig!
Mae pawb yn teimlo’n flinedig o bryd i’w gilydd, ond mae lludded sy’n gysylltiedig â chanser yn wahanol i flinder arferol. Er bod blinder fel arfer yn gysylltiedig â lefelau gweithgaredd ac yn gwella gyda gorffwys, mae lludded yn wahanol; gall fod yn ymdeimlad llethol o flinder nad yw’n mynd i ffwrdd gyda gorffwys neu gwsg. Gall effeithio ar eich corff cyfan, eich meddwl, a hyd yn oed eich emosiynau.
Pan fyddwn yn meddwl am lefelau egni a lludded mae’n gyffredin canolbwyntio ar bethau corfforol fel cerdded neu fod angen cwsg. Ond mae lludded sy’n gysylltiedig â chanser – yn wahanol. Gall effeithio ar sut rydych chi’n meddwl, yn teimlo ac yn ymateb i’r byd o’ch cwmpas.
Mae lludded yn effeithio ar fwy na dim ond eich corff. Gall lludded ymddangos mewn gwahanol ffyrdd:
Efallai y byddwch chi’n sylwi ar newidiadau gwybyddol fel methu canolbwyntio, ei chael hi’n anodd dod o hyd i eiriau, problemau cof neu feddwl yn arafach – y cyfeirir ato yn aml fel “niwl yr ymennydd”.
Efallai y byddwch chi’n teimlo’n fwy emosiynol nag arfer – yn fwy dagreuol, yn orbryderus neu’n teimlo’n rhwystredig yn hawdd.
Gall pethau bob dydd fel sŵn cefndir, goleuadau ac arogleuon cryf deimlo’n llethol iawn. Gelwir hyn yn lludded synhwyraidd – pan fydd eich ymennydd yn blino o brosesu gormod o’ch cwmpas. Efallai y byddwch chi’n sylwi ar bethau’n fwy dwys, fel arogl na fyddai fel arfer yn eich trafferthu yn sydyn yn teimlo’n ormodol.
Hyd yn oed os nad ydych wedi gwneud llawer yn gorfforol, efallai y byddwch chi’n dal i deimlo’n flinedig neu wedi ymlâdd, oherwydd bod eich egni wedi cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd eraill.
Meddyliwch am eich egni fel batri.
Mae popeth rydych chi’n ei wneud – boed hynny’n gerdded, meddwl, poeni, neu fod mewn lle swnllyd – yn defnyddio rhywfaint o’r batri hwnnw. Dyna pam efallai y byddwch chi’n teimlo wedi blino’n lân hyd yn oed os nad ydych wedi gwneud llawer yn gorfforol.
Os ydych chi wedi bod yn teimlo’n flinedig heb unrhyw gysylltiad amlwg â lefelau gweithgarwch corfforol, nid ydych ar eich pen eich hun!
Bydd y rhan fwyaf o bobl â chanser yn profi lludded ar ryw adeg.
Dyma’r symptom mwyaf cyffredin o ganser, a gall llawer o driniaethau fel cemotherapi neu radiotherapi, a llawdriniaeth waethygu lludded.
Cyn lludded sy’n gysylltiedig â chanser, byddech wedi defnyddio egni’n raddol trwy gydol y dydd.
Nawr mae eich egni yn draenio’n gyflymach, ac mae angen i chi ail-wefru’n amlach.
Ffordd dda o wneud hyn yw trwy wneud gweithgareddau heriol bob yn ail â rhai haws neu gael cyfnodau gorffwys byr. Ond cofiwch – nid yw gorffwys ar ei ben ei hun yn ddigon.
Mewn gwirionedd, gall eistedd yn llonydd am gyfnodau hir wneud lludded yn waeth. Yn union fel batri car, mae angen i’ch corff barhau i symud i aros wedi’i wefru. Dychmygwch gar wedi’i barcio ar y dreif am amser hir – mae’r batri yn mynd yn fflat. Gall aros yn actif helpu i leihau lludded dros amser.
Mae yna lawer o ffyrdd i reoli eich lefelau egni. Mae’n well dechrau defnyddio strategaethau cyn i’r driniaeth ddechrau, ond nid yw byth yn rhy hwyr – hyd yn oed os ydych chi wedi dechrau neu hyd yn oed wedi gorffen eich triniaeth. Meddyliwch am sut mae lludded yn effeithio ar eich bywyd bob dydd a’r pethau rydych chi eisiau neu angen eu gwneud.
Cliciwch ar y llun a’r disgrifiad gorau o ba mor flinedig y buoch chi dros yr wythnos diwethaf a sut mae hynny’n eich atal rhag gwneud y pethau rydych chi eisiau eu gwneud.

Lefel egni arferol.

Rydych chi’n teimlo ychydig yn fwy blinedig nag arfer. Rydych chi’n dal i allu gwneud popeth sydd angen i chi ei wneud.

Mae’r blinder yn amlwg ac yn eich ypsetio. Rydych chi’n gwneud llai o weithgareddau corfforol dyddiol. Efallai bod hyn yn cael effaith ar eich gwaith.

Rydych chi wedi blino’n lân bob dydd. Rydych chi eisiau eistedd neu orffwys yn aml. Rydych chi’n teimlo allan o wynt. Mae’n anodd iawn gwneud tasgau dyddiol. Dydych chi ddim yn teimlo fel gwneud ymarfer corff.
Mae’n wych nad ydych chi’n teimlo blinder sy’n gysylltiedig â chanser!
Daliwch ati i wneud gweithgareddau dyddiol arferol, gan gynnwys gweithgareddau corfforol fel gwaith tŷ a garddio; bwyta’n dda, cysgu’n dda a gwneud ymarfer corff.
Cyflwyniad i weithgarwch corfforol gydag ymarfer corff ar wahanol lefelau.
Llyfryn gan Gymorth Canser Macmillan
Pam mae maeth da yn bwysig wrth baratoi ar gyfer triniaeth
Gall dysgu ac ymarfer strategaethau rheoli blinder helpu i atal blinder rhag gwaethygu a lleihau ei effaith ar fywyd bob dydd, sy’n golygu y byddwch chi’n gallu gwneud mwy o’r pethau sy’n bwysig i chi.
Mae’n bwysig osgoi patrwm gweithgarwch twf a chwalfa oherwydd mae hynny’n gallu gwneud y blinder yn waeth dros amser gan darfu ar fywyd bob dydd.
Y ffordd orau o reoli eich blinder a lleihau’r effaith ar fywyd bob dydd yw gweithio wrth eich pwysau yn ystod y dydd, gan wneud gweithgareddau heriol am yn ail â rhai haws neu gyfnodau o orffwys. Cliciwch am fwy o wybodaeth am sut i wneud hynny.
Mae’n bwysig dal i wneud ymarfer corff; mae hynny’n gallu helpu i reoli ac atal blinder sy’n gysylltiedig â chanser.
Llyfryn gan Gymorth Canser Macmillan
Mae sawl ffordd o reoli blinder gan gynnwys trin unrhyw ffactor posibl sy’n ei achosi, fel anemia neu lai o faeth. Siaradwch â’ch darparwr gofal iechyd am driniaeth ar gyfer unrhyw ffactor sylfaenol.
Mae’n bwysig osgoi patrwm gweithgarwch twf a chwalfa oherwydd mae hynny’n gallu gwneud y blinder yn waeth dros amser gan darfu ar fywyd bob dydd.
Y ffordd orau o reoli eich blinder a lleihau’r effaith ar fywyd bob dydd yw gweithio wrth eich pwysau yn ystod y dydd, gan wneud gweithgareddau heriol am yn ail â rhai haws neu gyfnodau o orffwys. Cliciwch am fwy o wybodaeth am sut i wneud hynny.
Mae gan Ymchwil Canser y DU lawer o gyngor da am sut i drin blinder sy’n gysylltiedig â chanser yma.
Efallai eich bod yn profi newidiadau gwybyddol fel problemau cof, anawsterau dod o hyd i eiriau neu broblemau canolbwyntio. Mae gan Ymchwil Canser y DU gyngor da ar ffyrdd o reoli hyn yma.
Er mwyn gwybod beth sy’n gweithio’n dda i chi wrth reoli blinder, efallai y bydd rhaid i chi arbrofi ychydig. Mae cadw dyddiadur am ychydig wythnosau yn gallu helpu i weld pa adegau o’r dydd rydych chi’n teimlo fwyaf egnïol, beth sy’n gwneud i’ch blinder deimlo’n well neu’n waeth a sut mae blinder yn effeithio ar wahanol rannau o’ch bywyd.
Mae dyddiadur yn gallu eich helpu i gynllunio hefyd. Wrth gynllunio eich diwrnod, ceisiwch gynllunio gweithgareddau sy’n gofyn am lefelau uwch o egni bob yn ail â gweithgareddau ymlaciol, er mwyn rhoi cyfle i’ch batri ailwefru yn ystod y dydd. Mae Cymorth Canser Macmillan wedi cynhyrchu templed canllaw a dyddiadur yma.
Mae’n bwysig dal i wneud ymarfer corff; mae hynny’n gallu helpu i reoli ac atal blinder sy’n gysylltiedig â chanser.
Sut i wneud y gorau o’r bwyd rydych chi’n fwyta.
Monitro a rheoli eich blinder
Pan fyddwch chi’n teimlo’n flinedig iawn bob dydd, mae gwneud tasgau dyddiol yn gallu teimlo’n amhosibl. Mae hyn yn rhwystredig ac yn peri gofid ac mae’n gallu achosi meddyliau a theimladau pryderus, sy’n cyfrannu at flinder hefyd.
Mindfulness is about having an awareness of your thoughts and feelings as they happen moment to moment. This awareness helps to show when you are caught up in thoughts in a way that isn’t helpful and it allows you to stand back from your thoughts and choose to pay attention to the world around you instead. This technique can help you to notice and deal with signs of stress and anxiety earlier and more effectively helping to manage the emotional and mental aspects of fatigue.
Pan ydych chi’n teimlo’n flinedig iawn, mae gweithgarwch corfforol yn gallu teimlo’n amhosibl. Ond, mae gwneud rhywfaint o bethau ysgafn iawn yn gallu eich helpu i ddechrau ailwefru eich batri a chynyddu eich lefelau egni. Dyma ddolenni fideos gyda symudiadau Tai Chi ysgafn rydych chi’n gallu eu gwneud wrth eistedd ar gadair:
Mae deall beth yw ‘cylch o danweithgaredd’ yn gymorth i ddeall pam mae gweithgarwch corfforol yn fuddiol wrth reoli blinder.
Siaradwch â’ch darparwr gofal iechyd er mwyn taclo unrhyw ffactorau sylfaenol fel anemia neu ddiffyg maeth hefyd efallai.
Mae Macmillan wedi cynhyrchu gwybodaeth am flinder sy’n gysylltiedig â chanser sy’n gallu bod yn ddefnyddiol. Mae hwn ar gael fel llyfr sain neu destun ysgrifenedig:
1. Prue G, Rankin J, Allen J, et al.: Cancer-related fatigue: A critical appraisal. Eur J Cancer 42 (7): 846-63, 2006. [PUBMED Abstract]
2. Berger AM, Abernethy AP, Atkinson A, et al.: Cancer-related fatigue. J Natl Compr Canc Netw 8 (8): 904-31, 2010. [PUBMED Abstract]
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.