Lympiau meinwe meddal anfalaen (di-ganseraidd) yw codenni ganglion, sy’n gallu ymddangos naill ai’n araf neu’n weddol gyflym.
Fel arfer mae ganddyn nhw gasyn allanol a chynnwys trwchus fel ‘gel’ (mwcin) ac maen nhw’n cael eu ffurfio gan y ‘gel’ sy’n gollwng o wain dendon neu gymal.
Fel arfer nid ydynt yn achosi poen ond pan fyddant yn ymddangos o gwmpas y droed a’r pigwrn, gall esgidiau eu llidio.
Os oes gennych chi broblem sydd ddim yn gwella fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda hunanofal, cysylltwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gall fod yn feddyg teulu, fferyllydd, gwasanaeth podiatreg y GIG neu bodiatregydd preifat.
Gwnewch yn siŵr bod eich Podiatregydd wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei enw.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.